Telynegion Maes a Môr/Merch y Felin

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ionawr

MERCH Y FELIN.

GERLLAW y bompren, ddoe,
Mi sefais i enweirio;
Ac fel tywyniad haul
Daeth merch y felin heibio.

Arafodd i fy ngweld,
Gan bwyso ar y canllaw,
A swp o flodau maes
A rhedyn rhwng ei dwylaw.

Ni welais ddim erioed
Mor las a than ei haeliau;
Ni welais ddim erioed
Mor felyn a'i Llywethau.

Meddyliais am y môr,
Ond nid oedd ton cyn lased —
A'r tywod ar y traeth,
Ond nid oedd cyn felyned.

Wrth syllu ar ei llun,
Yn nŵr y llyn o tani,
Mi deimlwn fel pe bai
Fy nghalon bron a boddi.

Ni wyddwn, gan fy serch,
le'r oeddwn i yn sefyll;
Ac ni ofalwn ddim
Am eog nac am frithyll.


Ergydio'r dŵr wnâi'r pluf,
A glynu yn y cangau;
Ergydio wnâi fy ngwaed,
A glynu wnelwn innau.

Eiriolwn fel pebawn
Yn eiriol am ymwared,
"Dos ymaith benyd hardd"—
Ond ofnwn iddi fyned.

Dos, ynte symud gam,
Yn lle bod yn dy unfan,"
Ni syniwn ar y pryd
Y medrwn fynd fy hunan.

A glywodd hi y gair?
Ni wni ddim am hynny,
Ond mynd wnaeth hi a'i llun,
A minnau'n edifaru.

Ai tybed bu erioed
Enweirio mor ysmala?
Y pysg yn chwarae'n rhydd,
A minnau wedi 'nala!