Telynegion Maes a Môr/Ionawr

Oddi ar Wicidestun
Merch y Felin Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Chwefror


Telynegion y Misoedd.


IONAWR.

Wyt Ionawr yn oer,
A'th farrug yn wyn;
A pha beth a wnaethost
I ddŵr y llyn?
Mae iậr fach yr hesg
Yn cadw'n ei thy,
Heb le i fordwyo
Na throchi 'i phlu.

Wyt Ionawr yn oer,
A'th farrug yn wyn;
Ac nid oes uchedydd
Na grug ar fryn;
O liaws y lawnt
Ni welaf ond un,
O'r pridd wedi codi
Fel pe drwy 'i hun.

Wyt Ionawr yn oer,
A’th farrug yn wyn;
A sigli yr adar
O frig yr ynn;
Ni cheir. ar y coed.
Griafol fel bu —
Mae'r frongoch a'r fwyalch
O dŷ i dŷ.


Wyt Ionawr yn oer,
A’th farrug yn wyn;
Ac ni fedd pawb aelwyd
Ar hin fel hyn;
Mae rhywrai heb dý,
A rhywrai heb dân,
A rhywrai heb fara,
Na chwsg, na chân.