Telynegion Maes a Môr/Hyd fin y maes, ym min yr hwyr

Oddi ar Wicidestun
Men Telynegion Maes a Môr
Telynegion Men
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Men
Bob nos olau leuad

HYD FIN Y MAES YM MIN YR HWYR

.

Hyd fin y maes, ym min yr hwyr,
Rhodiannai dau yn wyn eu byd;
Ac iddynt, caru'r oedd y sêr,
A charu'r oedd ysgubau'r ŷd :
Gwna serch erioed bob dau yn ffôl,
Gwna serch erioed bob dau yn ddall;
Pwy rodiai'r maes ym min yr hwyr?
Myfi oedd un, a Men y llall.

Y mis pan oedd y berth yn las,
A'r mis pan oedd gan eira'n wen,
Rhodiannai'r wenlloer gyda'r sêr,
Rhodiannwn innau gyda Men :
Rhy fyr i serch yw hirddydd haf,
Rhy hir yw'r disgwyl byrra' erioed;
Ac am y ddau pwy wyddai'n well
Na'r llanc a'r eneth ddeunaw oed?

Cynhaeaf arall welais i —
'Roedd chwerthin yn y llwyni cnau —
Ond Men, a'i dwyrudd fel y lloer,
Yn sôn am fedd a chartre'n cau;
Hyd fin y maes, ym min yr hwyr,
Rhodiannai dau yn fud, yn fud;
Ac iddynt, wylo 'r oedd y sêr,
Ac wylo 'r oedd ysgubau'r ŷd.