Telynegion Maes a Môr/Men
Gwedd
← Yn Erw Duw | Telynegion Maes a Môr Telynegion Men gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion Men |
Hyd fin y maes, ym min yr hwyr → |
Telynegion Men
MEN.
Yn yr allt ar lannau Dwyfor
Y cyfarfum â fy Men,
Clychau'r gog oedd yn ei dwylo,
Gwallt fel heulwen ar ei phen;
Tecach oedd na neb a welswn
Yn rhodianna yn y coed —
O! mi deimlais yn fy nghalon
Beth na wnes erioed.
Yn yr allt ar lannau Dwyfor
Ar foreau wedi hyn,
Bûm yn un o ddau yn casglu
Clychau glas i ddwylo gwyn;
Onid oedd yn drafferth felys,
Hedfan fel rhyw loyn haf? —
O! ni fûm erioed cyn llonned,
Nac erioed mor glaf.
Yn yr allt ar lannau Dwyfor
Tyf y glaslwyn fel o'r blaen ;
A chwedleua'r don barablus
Chwedlau serch wrth ro a maen;
Hoff gen' innau'r eneth honno
A gyfarfum yn yr allt ;
Gyda'r clychau yn ei dwylo,
Gyda'r heulwen yn ei gwallt.