Telynegion Maes a Môr/Mun ac Oenig

Oddi ar Wicidestun
Ora Pro Nobis (cyfieithiad) Telynegion Maes a Môr
Telynegion Bywyd
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Bywyd
Nadolig Llawen

MUN AC OENIG.

GWELAIS hi ar fin y traeth,
Yn y mis blodeuai'r perthi ;
Geneth fwyn â llygad ffraeth,
A'r gwefusau cochaf ganddi.

Cawsai, pe fel llawer mun,
Gymaint arall o fodrwyau
Ag oedd yn ei gwallt ei hun,
Gan gynifer o gariadau.

Yn ei chanlyn fel peth hoff,
Pleth o flodau am ei gwddw,
Yr oedd oenig fechan gloff,
Elwid ganddi wrth ei henw.

Pethau ieuainc oedd y ddwy,
A chwaraeent mor ddiniwed,
Fel yr oedais beth yn hwy—
Haws oedd oedi nag oedd myned.

Safai'r oenig fach yn gall,
Rhedai, safai am gydymaith ;
Brefai'r oenig, chwarddai'r llall
Yna rhedai'r ddwy ar unwaith.

Ni fu chwarae gwell erioed,
Na dedwyddach, nes i'r oenig
Golli ei hanafus droed
Ar y gwmon llyfn a llithrig.


Heibio'r greiglan, dacw hi
Yn diflannu yn yr ewyn-
Clywais fref, a chlywais gri,
A bu'r don yn fwyfwy brigwyn.

Crynai'r eneth ar y lan,
Yn y llif y crynwn innau ;
A rhyw fywyd ofnus, gwan-
Hwnnw'n crynu yn fy mreichiau.

Gwnes beth difraw, gwnes beth ffôl,
Ond yr oedd y fun mor brydferth ;
A chyn mynd o'r traeth yn ôl,
Cefais fwy na gwerth y drafferth.