Telynegion Maes a Môr/Nadolig Llawen

Oddi ar Wicidestun
Mun ac Oenig Telynegion Maes a Môr
Telynegion Bywyd
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Bywyd
Gobaith

"NADOLIG LLAWEN."

I.

Boed eich Nadolig
Yn gân i gyd ;
Eira neu beidio,
Gwyn fo eich byd;
A byddwch yn blant
I'r hen Ddraig Goch —
Yn Gymry pur
B'le bynnag y b’och.

II.


Boed lon dy lys,
Boed lawn dy wledd ;
A chofia flys
Yr hwn na fedd.

III.


Cadw'th Nadolig, fy mrawd,
O newydd i Fab y Dyn;
Câr dy gymydog, fy mrawd,
A châr ef fel ti dy hun.
A phan wrth dy fwrdd, fy mrawd,
Ai prin ai helaethwych fo-
Cadw dy friwsion, fy mrawd,
I'r frongoch a llwyd y to.