Telynegion Maes a Môr/O Cadwn Uchelwyl

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Coelcerthi'r Bannau Telynegion Maes a Môr
Telynegion Cymru
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)
"Ochain y Clwyfawg"

O CADWN UCHELWYL.

O CADWN uchelwyl
A thelyn a thant;
Boed annerch a cherdd
Yn nhafodiaith y Sant;
Ond cadwn o'r ddefod
Y cwpan a'r gwin,
A'r Cymro un diwrnod
A ffug ar ei fin.

O hyd y mae Dewi
Yn dyfod am dro,
I weled ei hil
Ac i weled ei fro:
Mae'n dda ganddo genedl
Yn gwisgo ei gwyrdd,
Ond gwell ganddo genedl
Yn dilyn ei ffyrdd.

O cadwn uchelwyl,
Mewn pentref a thref,
Gan anfon un weddi
Gymraeg hyd y nef —
"Boed Cymru y tadau
Yn Gymru y plant;
A Chymru gorwyrion
Yn Gymru y Sant."