Telynegion Maes a Môr/Y Sêr

Oddi ar Wicidestun
Trioedd y Mynydd Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Briallen Sul y Blodau

Y SER.

Eis neithiwr heibio'r llyn,
Gan edrych dan y feisdon;
Ac yno gwelais fil a mwy
O berlau gloywon, gloywon.

Eis heibio gyda'r wawr,
Gan feddwl casglu'r perlau;
Ond nid oedd drannoeth berl ar ôl,
Nac ôl neb ar y glannau.