Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Marc IX

Oddi ar Wicidestun
Marc VIII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Marc X
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)

PENNOD IX.

2 Gwedd-newidiad yr Iesu. 11 Efe yn dysgu ei ddisgyblion ynghylch dyfodiad Elias: 14 yn bwrw allan yspryd mud a byddar: 30 yn rhag-fynegi ei farwolaeth a'i adgyfodiad; 33 yn annog ei ddisgyblion ostyngeiddrwydd: 38 gan erchi iddynt, na luddient y rhai nid ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o'r ffyddloniaid. efe a ddywedodd wrthynt.

1 Ac Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o'r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2 Ac wedi chwe diwrnod, y cymmerth yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a'u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o'r neilldu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gwydd hwynt.

3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisglaer, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.

4 Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses; ac yr oeddynt yn ymddiddan a'r Iesu.

5 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Elias un.

6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7 A daeth cwmmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab; gwrandewch ef.

8 Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyd â hwynt.

9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodai Mab y dyn o feirw.

10 A hwy a gadwasant y gair gyd â hwynt eu hunain, gan gyd-ymholi beth yw yr adgyfodi o feirw. 11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion, fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias ddiau gan ddyfod yn gyntaf a edfryd bob peth; a'r modd yr ysgrifenwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo yr hyn a fynnasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.

14 A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a'r ysgrifenyddion yn cyd-ymholi â hwynt.

15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto, a gyfarchasant iddo.

16 Ac efe a ofynodd i'r ysgrifenyddion, Pa gyd-ymholi yr ydych yn eich plith?

17 Ac un o'r dyrfa a attebodd ac a ddywedodd, Athraw, mi a ddygais fy mab attat, ag yspryd mud ynddo:

18 A pha le bynnag y cymmero ef, efe a'i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

19 Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ogenhedlaeth anffyddlawn, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef attaf fi.

20 A hwy a'i dygasant ef atto. A phan welodd ef, yn y man yr yspryd a'i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn.

21 A gofynodd yr Iesu i'w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.

22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.

23 A'r lesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r neb a gredo.

24 Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i.

25 A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cyd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i di, Tyred allan o hono, ac na ddos mwy iddo ef.

26 Ac wedi i'r yspryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27 A'r Iesu a'i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd; ac efe a safodd i fynu.

28 Ac wedi iddo fyned i mewn i'r ty, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.

30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea : ac ni fynnai efe wybod o neb.

31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylaw dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.

33 ¶ Ac efe a ddaeth i Capernaum a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent a'u gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.

36 Ac efe a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37 Pwy bynnag a dderbynio un o'r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.

38 ¶ Ac Ioan a'i hattebodd ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39 A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.

40 Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae.

41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwppanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.

42 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.

43 Ac os dy law a'th rwystra, torr hi ymaith gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag a dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

45 Ac os dy droed a'th rwystra, torr ef ymaith gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân na'r tân yn diffodd.

47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:

48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

49 Canys. pob un a helltir à thân, a phob aberth a helltir â halen.

50 Da yw yr halen: ond os bydd yr halen yn ddihallt, & pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn a'ch gilydd.

Nodiadau[golygu]