Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Marc X

Oddi ar Wicidestun
Marc IX Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Marc XI
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)

PENNOD X.

2 Crist yn ymresymmu a'r Phariseaid ynghylch ysgar: 13 yn bendithio y plant a ddygwyd atto: 17 yn atteb i wr goludog, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragywyddol: 23 yn dangos i'w ddisgybl- ion berygl golud: 28 yn addaw gwobrau i'r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr efengyl: 32 yn rhag-fynegi ei farwolaeth, a'i adgyfodiad: 35 yn gorchymyn i feibion Zebedeus, a geisient barch ganddo, feddwl yn hytrach am ddioddef gyd âg ef; 46 ac yn rhoddi ei olwg i Bartimeus

1 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Judea, trwy y tu hwnt i'r lorddonen; a'r bobloedd a gyd-gyrchasant atto ef drachefn : ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt drachefn.

2 A'r Phariseaid, wedi dyfod atto, a ofynasant iddo, Ai rhydd i wr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef.

3 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi?

4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiattaodd ysgrifenu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.

5 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:

6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.

7 Am hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;

8 A hwy ill dau a fyddant un cnawd fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.

9 Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.

10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a brïodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gwr, a phriodi un arall, y mae hi yn godinebu.

13 A hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14 A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfoddlawn, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

16 Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

17 ¶ Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un atto, a gostyngodd iddo, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?

18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.

19 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na cham-dystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.

20 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn i gyd a gedwais o'm hieuengetid.

21 A'r lesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymmer i fynu y groes, a dilyn fi.

22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 ¶ A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!

24 A'r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw i'r rhai sydd a'u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!

25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grai y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A hwy a synnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?

27 A'r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyd â dynion ammhosibl yw, ac nid gyd a Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw.

28 Yna y dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.

29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwïorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl,

30 A'r ni dderbyn y cán cymmaint yr awrhon y pryd hwn, dai, a brodyr,achwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yny byd a ddaw, fywyd tragywyddol.

31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiweddaf; a'r diweddaf fyddant gyntaf.

32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Jerusalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:

34 A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr adgyfyd.

35 A daeth atto Iago ac Ioan, meibion Zebedeus, gan ddywedyd, Athraw, ni a fynnem wneuthur o honot i ni yr hyn a ddymunem.

36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatta i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.

38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwppan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef?

39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwppan yr yfwyf fi; ac y'ch bedyddir a'r bedydd y bedyddir finnau:

40 Ond eistedd ar fy neheulaw a'm haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i'r rhai y darparwyd.

41 A phan glybu y deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfoddlawn ynghylch Iago ac Ioan.

42 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt.

43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;

44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.

45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

46 ¶ A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a'i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimëus ddall, mab Timëus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardotta.

47 A phan glybu mai yr Iesu o Nazareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.

48 A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.

49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.

50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.

51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athraw, caffael o honof fy ngolwg.

52 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.

Nodiadau[golygu]