Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Marc XII
← Marc XI | Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879) gan Cymdeithas y Beibl |
Marc XIII → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd) |
PENNOD XII.
1 Trwy ddammeg y winllan a logwyd i lafurwyr anniolchgar, y mae Crist yn rhag-ddangos gwrthodiad yr Iuddewon, a galwad y Cenhedloedd: 13 y mae yn gochelyd magl y Phariseaid a'r Herodianiaid ynghylch talu teyrnged i Cesar; 18 yn argyhoeddi amryfusedd y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad; 28 yn atteb yr ysgrifenydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf: 35 yn beio ar dyb yr ysgrifenyddion am Grist; 38 ac yn gorchymyn i'r bobl ochelyd eu huchder a'u rhagrith hwy; 41 ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy na neb.
1 AC efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gwr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd le i'r gwin-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
2 Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan.
3 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrrasant ymaith yn wag-law.
4 A thrachefn yr anfonodd efe attynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrrasant ymaith yn ammharchus.
5 A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
6 Am hynny etto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
7 Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.
8 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan.
9 Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill.
10 Oni ddarllenasoch yr ysgrythyr hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben 'y gongl:
11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
12 A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
13 ¶ A hwy a anfonasant atto rai o'r Phariseaid, ac o'r Herodianiaid, i'w rwydo ef yn ei ymadrodd.
14 Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Cesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?
15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi.
16 A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.
17 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o'i blegid.
18 ¶ Daeth y Saduceaid hefyd atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
19 Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had.
21 A'r ail a'i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had:a'r trydydd yr un modd.
22 A hwy a'i cymmerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiweddaf o'r cwbl bu farw y wraig hefyd.
23 Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan adgyfodant, gwraig i ba un o honynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.
24 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw?
25 Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreiccant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angelion sydd yn y nefoedd.
26 Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?
27 Nid yw efe Dduw y meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni yn fawr.
28 ¶ Ac un o'r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymmu, a gwybod atteb o hono iddynt yn gymmwys, ac a ofynodd iddo, Pa un yw y gorchymyn cyntaf o'r cwbl ?
29 A'r Iesu a attebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchymynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw :
30 A châr yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth. Hwn yw y gorchymyn cyntaf.
31 A'r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na'r rhai hyn.
32 A dywedodd yr ysgrifenydd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arail ond efe :
33 A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymmydog megis ei hun, sydd fwy na'r holl boeth-offrymmau a'r aberthau.
34 A'r Iesu, pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn âg ef.
35 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy yr Yspryd Glân, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed.
37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwennychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd,
39 A'r prif-gadeiriau yn y synagogau, a'r prif-eisteddleoedd mewn
swpperau;
40 Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 ¶ A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn â'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriasant i'r drysorfa.
44 Canys hwynt-hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd y'ngweddill ganddynt ond hon o'i heisieu a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.