Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Marc XIII

Oddi ar Wicidestun
Marc XII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Marc XIV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)

PENNOD XIII.

1 Crist yn rhag-fynegi dinystr y deml: 9 yr erlidiau o achos yr efengyl: 10 y bydd rhaid pregethu yr efengyl i'r Cenhedloedd oll: 14 y mawr gystuddiau a ddigwyddai ir Iuddewon: 24 a dull ei ddyfodiad ef i'r farn: 32 o ran na ŵyr neb yr awr, y dylai pob dyn wylied a gweddio, rhag ein cael yn ammharod pan ddel efe at bob un trwy farwolaeth.

1 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r deml un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athraw, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma.

2 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a'r nis dattodir.

3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olew-wydd, gyferbyn â'r deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu,

4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn oll ar ddibennu?

5 A'r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi

6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.

7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffrôer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw y diwedd etto.

8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daear-grynfäau fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.

9 ¶ Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cynghorau, ac i'r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron rhaglawiaid a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr efengyl ym mysg yr holl genhedloedd.

11 Ond pan ddygant chwi, a'ch traddodi, na rag-ofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch : canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Yspryd Glân.


12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a'u rhoddant hwy i farwolaeth.

13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y prophwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Judea, ffoant i'r mynyddoedd:

15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o'i dŷ.

16 A'r neb a fyddo yn y maes, na thröed yn ei ol i gymmeryd ei wisg.

17 Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny!

18 Önd gweddiwch na byddo eich fföedigaeth yn y gauaf.

19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creadwriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.

20 Ac oni bai fod i'r Arglwydd fyrhâu y dyddiau, ni chadwesid un cnawd eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.

21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, accw; na chredwch :

22 Canys gau-Gristiau a gau-brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion.

23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhag-ddywedais i chwi bob peth.

24 ¶ Ond yn y dyddiau hynny, wedi y gorthrymder hwnnw, y tywylla yr haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni,

25 A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.

26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymmylau, gyd â gallu mawr a gogoniant.

27 Ac yna yr enfyn efe ei angelion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.

28 Ond dysgwch ddammeg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:

29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.

30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.

31 Nef a daear a ânt heibio : ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim. 32 Eithr am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, na'r angelion sydd yn y nef, na'r Mab, ond y Tad.

33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34 Canys Mab y dyn sydd fel gwr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i'r drysawr wylio.

35 Gwyliwch gan hynny, (canys nis gwyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai y boreuddydd ;) 36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymmwth, a'ch cael chwi yn cysgu. 37 A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

Nodiadau[golygu]