Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XII

Oddi ar Wicidestun
Mathew XI Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Mathew XIII
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Sabbath; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iachâu y dyn cythreulig, mud, a dall. 31 Ni faddeuir . byth gabledd yn erbyn yr Yspryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

YR amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy yr ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta.

2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd âg ef, ond yn unig i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddigerydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod yma un mwy na'r deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn rhai diniwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mab y dyn.

9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10 ¶ Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabbath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15 A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn: gosodaf fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni lefain; ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen ysig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd.

22 ¶ Yna y dygpwyd atto un cythreulig, dall a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23 A'r holl dorfeydd a synnasant. ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?

24 Eithr pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid.

25 A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27 Ac os trwy Beelzebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.

29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr yspeilio ei ddodrefn ef, oddi eithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna yr yspeilia efe ei dy ef.

30 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglų gyd â mi, sydd yn gwasgaru.

31 ¶ Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Yspryd Glan ni faddeuir i ddynion.

32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, nis madd- euir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.

33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34 O eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau.

35 Y dyn da, o drysor da y galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.

37 Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.

38 Yna yr attebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd gennyt.

39 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond ar- wydd y prophwyd Jonas:

40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos y'nghalon y ddaear.

41 Gwyr Ninefe a gyfodant yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhâu wrth bregeth Jonas : ac wele fwy na Jonas yma.

42 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.

43 A phan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael.

44 Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.

45 ¶ Yna y mae efe yn myned, ac yn cymmeryd gyd âg ef ei hun saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanneddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.

46 Tra yr ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan âg ef.

47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.

48 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49 Ac efe a estynodd ei law tu ag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i:

50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.

Nodiadau[golygu]