Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XIII

Oddi ar Wicidestun
Mathew XII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Mathew XIV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XIII.

3 Dammeg yr hauwr a'r had; 18 a'i dehongliad. 24 Dammeg yr efrau, 31 yr had mustard, 33 y surdoes, 44 y trysor cuddiedig, 45 y perl, 47 a'r rhwyd. 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.

Y DYDD hwnnww yr Iesu allan o'r tŷ, ac yr eisteddodd wrth làn y môr.

2 A thorfeydd lawer a ymgynnullasant atto ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd a'r holl dyrfa a safodd ar y làn.

3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau.

4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.

5 Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear:

6 Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7 A pheth arall a syrthiodd ym mhlith y drain; a'r drain a godasant, ac a'u tagasant hwy.

8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri-ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.

9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10 A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.

13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir prophwydoliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeallwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;

15 Canys brasâwyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall a'r galon, a throi, ac i mi eu hiachâu hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed:

17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 ¶ Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hauwr.

19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a hauwyd ym mhlith y drain, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri-ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a hauodd had da yn ei faes:

25 A thra yr oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gwr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist di had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae yr efrau ynddo?

28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio y gwenith gyd â hwynt.

30 Gadêwch i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf: ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyrlosgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes:

32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 ¶ Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri pheccaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt;

35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 ¶ Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr had da, yw Mab y dyn;

38 A'r maes yw y byd; a'r had da, hwynt-hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;

39 A'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt, yw diafol; a'r cynhauaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw yr angelion.

40 Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac a'u llwyr-losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.

41 Mab y dyn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd;

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

43 Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

44 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd am dano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.

45 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnattâwr, yn ceisio perlau teg:

46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ag a feddai, ac a'i prynodd ef.

47 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r làn, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg, 49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angelion a ânt allan, ac a ddi dolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd.

52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.

53 ¶ A bu, wedi i'r Iesu orphen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54 Ac efe a ddaeth i'w wlad ei hun, ac a'u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn a'r gweithredoedd nerthol i'r dyn hwn?

55 Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a lago, a Joses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef? 56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58 Ac ni wnaeth efe nemmawr o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Nodiadau[golygu]