Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XIV

Oddi ar Wicidestun
Mathew XIII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Mathew XV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XIV.

1 Tyb Herod am Grist. 3 Carchariad Ioan, a'i ddihenydd. 13 Yr Iesu yn ymadaw i le anial: 15 lle y mae efe yn porthi pum mil o bobl â phum torth ac a dau bysgodyn: 22 yn rhodio ar y môr at ei ddisgyblion; 34 ac wedi tirio yn Gennesaret, yn iachau y deifion a gyffyrddai âg ymyl ei wisg ef.

Y PRYD hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu;

2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 31 Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.

4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi.

5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymmerent ef megis prophwyd.

6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.

7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynai.

8 A hithau, wedi ei rhag-ddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.

9 A'r brenhin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gyd âg ef wrth y ford, efe a orchymynodd ei roi ef iddi.

10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.

11 A dygpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llangces : a hi a'i dug ef i'w mam.

12 A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu,

13 ¶ A phan glybu yr Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanneddle o'r neilldu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.

14 A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.

15 ¶ Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.

16 A'r fesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta.

17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pùm torth, a dau bysgodyn.

18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.

19 Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymmeryd y pùm torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fynu tu a'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.

20 A hwynt oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briw-fwyd oedd y'ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.

21 A'r rhai a fwyttasent oedd ynghylch pùm mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r làn arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.

23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddio: ac wedi ei hwyrhâu hi, yr oedd efe yno yn unig.

24 A'r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.

25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y môr.

26 A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.

27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.

28 A Phetr a'i hattebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd.

29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.

30 Ond pan welodd efe y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.

31 Ac yn y man yr estynodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?

32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.

33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.

34 ¶ Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.

35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl;

36 Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig âg ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddodd, a iachâwyd.

Nodiadau[golygu]