Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XXIII

Oddi ar Wicidestun
Mathew XXII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Mathew XXIV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XXIII

1 Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid. 5 Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'u dallineb hwy; 34 ac yn prophwydo dinystr Jerusalem.

1 YNA y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddisgyblion,

2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.

4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion, ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;

6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,

7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion. Rabbi, Rabbi.

8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10 Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist,

11 A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.

12 A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.

13 ¶ Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.

14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych y llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy.

15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt, ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.

16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled.

17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio'r aur?

18 A phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled.

19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?

20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.

21 A phwy bynnag a dwng i'r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.

22 A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.

23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adsawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.

24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidio gwybedyn, ac yn llyncu camel.

25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb.

26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.

27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid.

28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.

29 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, ac yn addurno beddau'r rhai cyfiawn;

30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi.

31 Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y proffwydi.

32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.

33 O seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?

34 ¶ Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch brophwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref.

35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a'r a ollyngwyd ar y ddaear, o, waed Abel gyfiawn hyd waed Zachareïas fab Baracheïas, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a'r allor.

36 Yn wir meddaf i chwi. Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.

37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio'r rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!

38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.

39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.

Nodiadau[golygu]