Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XXIV

Oddi ar Wicidestun
Mathew XXIII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Mathew XXV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XXIV

1 Crist yn rhag-ddywedyd dinystr y deml: 3 pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd o'r blaen. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bod y dydd a'r awr yn anhysbys, 42 y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.

1A'R Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau'r deml.

2 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.

3 ¶ Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olew-wydd, y disgyblion a ddaethant atto o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?

4 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.

5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.

6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffrôer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd etto.

7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfäau mewn mannau.

8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.

9 Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gasêir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.

10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.

11 A gau brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.

12 Ac oherwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.

13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.

15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedwyd trwy Daniel y prophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)

16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, fföant i'r mynyddoedd.

17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:

18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.

19 A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Sabbath:

21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.

22 Ac oni bai fyrhâu y dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrhêir y dyddiau hynny.

23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.

24 Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau-brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion.

25 Wele, rhag-ddywedais i chwi.

26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeith- wch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.

27 Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

28 Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.

29 ¶ Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyd â nerth a gogoniant mawr.

31 Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, O eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.

32 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:

33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.

34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â y genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36 ¶ Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.

37 Ac fel yr oedd dyddiau Noë, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noë i mewn i'r arch,

39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.

42 ¶ Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.

45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlawn a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46 Gwỳn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl ddâ y gesyd efe ef.

48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;

49 A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyd â'r meddwon;

50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl am dano, ac mewn awr nis gŵyr efe;

51 Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Nodiadau[golygu]