Teulu Bach Nantoer/Pennod III
← Pennod II | Teulu Bach Nantoer gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod IV → |
PENNOD III
DIWRNOD poeth ym mis Gorffennaf oedd. Yn ystod yr haf hwnnw, caed llawer o law, nes oedd hyd yn oed ar y rhos lawer pwllyn o ddwfr yma a thraw, ac yr oedd dyddiau tesog, braf, fel y dydd hwnnw, yn rhy anaml i'w sychu. Yr oedd ardalwyr Rhydifor yn brysur gyda'r gwair, a llawen iawn oedd plant y lle am fod gwyliau'r ysgol wedi dechrau.
Mam," ebe Ieuan ac Alun gyda'i gilydd y bore hwnnw, gan redeg i'r tŷ, mae Bronifor yn troi'r gwair ac yn galw am help. A gawn ni ddod yno gyda chwi ?
Peth braf gan y plant fyddai cael ymrolio yn y gwair a gwylio'r gweithwyr prysur, ond os eid ag un, rhaid fyddai mynd â'r pedwar, ac nid gwiw gwneud hynny. Ni wnai hynny ond creu gwaith lle'r oedd digon o waith yn barod. Felly, atebodd y fam:
"Na, rhaid i chwi eich dau ofalu am Mair ac Eiry heddiw. Yn lle dod i'r cae gwair, cewch fynd i'r rhos am y dydd. 'Rwyf am i chwi gasglu basgedaid o lus duon bach i mi. Gwnaf bastai i chwi wedyn erbyn te yfory.'
Felly, i'r rhos yr aethant. Cymerasant gyda hwy ystenaid o laeth, a digon o fara menyn yn fwyd.
Yr oedd yn hyfryd ar y rhos y bore hwnnw. Gwisgai'r grug a'r eithin wisgoedd eu gogoniant, a deuai arogl pêr o'r caeau gwair gyda'r awel o bobman. Yr oedd digonedd o lus hefyd er gwaethaf y glaw, ac yr oedd dwylo bychain, prysur, yn taflu dyrneidiau aml i'r fasged, gan gofio beunydd am addewid eu mam. Cyn hir, hefyd, gwelid ôl y llus ar y pedwar wyneb. Lliw glasddu oedd ar y dannedd, y gwefusau, a'r dwylo.
Wedi bod wrthi'n ddyfal am amser, daeth arnynt awydd symud i fan arall o'r rhos- yn agos i'r ffordd uchaf. Arweiniai hon hefyd i Lanywerydd, ond nid oedd cymaint o dramwy arni ag ar y llall. Wrth fynd, daethant at un o'r pyllau dwfr. Rhyw bwll hir, cul a bas oedd. Gallai Ieuan ac Alun, a hyd yn oed Mair, neidio drosto, ond byddai'n rhaid cario Eiry, neu gerdded gyda hi dipyn yn nes i lawr er mwyn osgoi croesi'r dwfr. Eithr nid felly y gwelodd y bechgyn yn dda i'w wneud.
"Alun," ebe Ieuan, "cydia di yn un llaw i Eiry, fe gydia innau yn y llall, a neidiwn ein tri dros y dŵr."
Ufuddhaodd Alun, ac aeth y tri ychydig oddi wrth y pwll er mwyn cael digon o nerth i neidio drosto. Rhifodd Ieuan " Un, dau, tri," ac yna i ffwrdd â hwy. Ond rywfodd, heb yn wybod iddynt, pan ar fin rhoi'r llam, gollyngodd y ddau fachgen eu gafael ar Eiry, nes iddynt hwy eu dau fod yn ddiogel ar y lan arall, ac Eiry ar ei hyd yn y dŵr. Neidiodd Ieuan i ganol y dŵr mewn eiliad, a chariodd hi drosodd yn ei freichiau, a'i dillad yn wlyb drwyddynt, a hithau'n llefain yn enbyd gan ofn.
Bu'r tri am ennyd mewn cryn benbleth. Ni wyddent beth i'w wneud â'u chwaer fach yn ei dillad gwlyb. Nid gwiw mynd yn ôl i'r bwthyn. Yr oedd allwedd hwnnw yn llogell eu mam yng nghae gwair Bronifor. Nid peth hyfryd i feddwl Ieuan chwaith oedd rhedeg tuag yno i gyffesu wrth ei fam, yng ngwydd y bobl, pa mor ddiofal y buasai. Gwell, os yn bosibl, aros hyd yr hwyr, nes i'r fam ddod adref. Felly, wedi ychydig ystyried, diosgwyd dillad Eiry, rhoddwyd côt Ieuan yn dynn am dani, gadawyd hi i orwedd ar y ddaear, a brat Mair yn orchudd i'w phen. Taenwyd y dillad, bob pilyn, o gylch y fan, a thra oeddynt yn sychu, eisteddodd y tri o gwmpas Eiry i gadw cwmni iddi a'i difyrru.
Cyn eistedd yn hir fan honno, gwelodd Ieuan gyfle braf am gynulleidfa lonydd i wrando arno yn pregethu neu'n areithio. Hoff gan Ieuan oedd arfer y ddawn honno, ond fynychaf, coed a llwyni'r ardd, neu'r defaid a'r wyn ar y rhos oedd ei wrandawyr. Byddai Alun a Mair ac Eiry, cyn iddo ond prin ddechrau, yn rhy hoff o redeg a chwarae o'i gwmpas—pethau hollol allan o le mewn cynulleidfa.
Rhyw gymysg oedd araith Ieuan y prynhawn hwnnw fel bob amser. Dechreuodd gyda brawddeg neu ddwy o ryw bregeth a glywsai rywbryd. Yna, trodd yn sydyn i'r Saesneg, a chaed ganddo ddarn o araith
Mark Antony gan Shakespeare, yn dechrau â—
Friends! Romans! Countrymen!
Taflodd ambell adnod i mewn, a chyn y diwedd, caed, mewn gwir hwyl Gymreig, y frawddeg-" Meddyliwch, bobol bach, fel yna y mae pethau!"
"Hei, Ieuan, edrych, edrych, dacw long fan draw," gwaeddai Alun, gan dorri ar draws huodledd ei frawd, a'r un funud, tra'n troi i edrych ar y llong, gwelent ar y clawdd yn eu hymyl ŵr a gwraig mewn dillad trwsiadus, yn edrych a gwrando arnynt gan wenu.