Teulu Bach Nantoer/Pennod IV
← Pennod III | Teulu Bach Nantoer gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod V → |
PENNOD IV
ANGHOFIODD hyd yn oed Alun am y llong pan welwyd y gŵr a'r wraig yn disgyn oddi ar y clawdd ac yn dyfod tuag atynt. Edrychodd y tri yn syn ar y dieithriaid. Eiry oedd yr unig un na chymerth sylw ohonynt. Ymhellach ymlaen ar y ffordd, gwelent gerbyd, a'r gyrrwr yn unig ynddo, yn aros am y ddau yn ddiau.
Ni welsai'r plant erioed o'r blaen neb wedi ymwisgo mor hardd; a'r hyn a barodd fwyaf o syndod i Ieuan ac Alun oedd fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach. Ar ddillad hardd y wraig yr edrychai Mair-rhai o'r un lliw â blodau'r grug oeddynt.
Y dyn a siaradai â'r plant. Holai hwynt am lawer o bethau-pa le yr oeddynt yn byw; beth oedd eu henwau; beth a wnaent ar y rhos; ac yn bennaf am Eiry-pam yr oedd yn gorwedd ar ei hyd felly, heb esgidiau na hosanau; ai côt Ieuan oedd amdani, ac ai ei dillad hi a welent ar y grug yn sychu? Siaradai'r ddau â'i gilydd yn Saesneg. Ceisiodd y wraig gael gan y plant siarad â hi hefyd, ond ni fedrai hyd yn oed Ieuan ei deall. Siaradai'n rhy gyflym, ac nid yr un sŵn oedd i'w Saesneg hi ag i Saesneg Ieuan ei hun.
Yr oedd Eiry wedi dechrau cysgu, ond pan glywodd ymddiddan, deffrodd. Taflodd y gorchudd oddi ar ei hwyneb, a chododd ar ei heistedd, gan ysgwyd ei gwallt rhuddaur ac edrych ar bawb-y plant a'r dieithriaid-- gan wenu'n fwyn yn ôl ei harfer. Ac er mai Saesneg oeddynt, cofiodd y plant am byth eiriau'r wraig pan ei gwelodd.
"O, what an angel of a child!" ebe hi'n araf a dwys, gan blygu at Eiry a chwarae â hi, a cheisio cael ganddi siarad, a daeth y ddwy ar unwaith yn gyfeillion. Mawr oedd ei phryder rhag i'r un fach gael niwed i'w hiechyd wedi'r gwlychu, ond yr oedd y dillad bron yn sych erbyn hyn, a'r niwed, os oedd niwed yn bod, wedi ei wneud.
Gofynnwyd i Ieuan areithio eto fel y gwnai; ond nid peth hawdd iddo ef oedd gwneud hynny o'u blaen hwy. Yn lle hynny, adroddodd y tri ddernyn Cymraeg a ddysgasent erbyn Cwrdd Bach y Plant yng nghapel Y Bryn, a chanasant gyda'i gilydd un o'r tonau.
Eisteddai'r ddau yn eu dillad gwychion ar y grug i wrando arnynt, a'r gyrrwr o hyd yn ddistaw ac amyneddgar yn ei gerbyd. Cyn mynd, rhanasant flychaid cyfan o felysion rhwng y plant, a rhoesant i bob un ohonynt swllt, a chusanodd y wraig Eiry lawer gwaith.
Prin y medrai'r plant aros yn hwy ar y rhos. Yr oedd arnynt awydd cryf i redeg i'r cae gwair at eu mam i ddweud yr hanes wrthi. Daeth yr amser yn fuan, ond y peth cyntaf a wnaeth Ieuan oedd dweud wrth ei fam, gan edrych i'w hwyneb gyda'r llygaid oedd mor debyg i lygaid ei dad, mor ffol y buasai ef ac Alun i geisio neidio ag Eiry dros y dŵr, ac iddi syrthio a gwlychu.
"Ond," ebe Alun, gan dorri ar ei draws, yr oedd yn dda i ni wneud hynny, waith wedi gweld Eiry yn gorwedd i'w dillad gael sychu, fe daeth gŵr a gwraig ddieithr i siarad â ni, ac——
Yna, dechreuodd pob un, â'i anadl yn ei wddf, adrodd yr hyn a ddigwyddodd. Ac wedi gwrando, o'r braidd y medrodd y fam roi gair o gerydd i Ieuan.
'Mae'n dda gen i," ebe hi, "dy fod di wedi dweud y cwbl, heb dreio arbed dy hunan, na threio beio neb arall."
Ac yna, rhyw ymholi a wnai pwy allai': dieithriaid fod, a beth a barai iddynt gymryd cymaint diddordeb yn ei phlant; a daeth rhyw feddwl drosti fod cael pedwar bychan felly, mwyn, nwyfus, ac iach, a llawn o gariad tuag ati, yn fwy cyfoeth na llawer o olud byd.