Teulu Bach Nantoer/Pennod VI
← Pennod V | Teulu Bach Nantoer gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod VII → |
PENNOD VI
BUAN y daeth y pum wythnos o wyliau haf i ben, a bu'n rhaid i Ieuan ac Alun a Mair adael y rhos, y gwair, y môr, a'u dirif chwaraeon, a mynd bob dydd fel cynt erbyn naw o'r gloch i ysgol y pentref.
Eithr yr oedd yn yr ysgol a'i gwaith hefyd lawer o fwynhad a swyn i'r tri. Ar ddiwedd mis Hydref, yr oedd yno waith pwysig iawn i'w wneud, sef symud y plant o un safon i'r llall. Rhoddid gwobrwyon hefyd i'r plant a oedd wedi dangos gallu neu ofal neilltuol mewn unrhyw gyfeiriad yn ystod y flwyddyn; a'r tro hwn, caed addewid gan y Parchedig Rhys Puw, rheithor y plwyf, y deuai i gyflwyno'r gwobrwyon a rhoi araith i'r plant.
Y degfed ar hugain o Hydref oedd-dydd nad anghofiwyd gan y plant a'u mam drwy eu hoes. Dydd cawodog oedd wedi storm enbyd o wynt a glaw. Yr oedd yr afon fach yn llawn hyd yr ymylon, a rhuthrai ei dyfroedd llwyd i lawr fel rhaeadr i ddal yr afon Gwynli lawr yn y dyffryn. Ni welwyd y fath genllif yno ers blynyddoedd. Gwyw a gwael eu gwedd oedd y gweddill bychan o flodau'r ardd, a gorchuddid y clôs o flaen y tŷ a'r lôn fach gan ddail meirwon gwlyb, a daflesid i lawr yn nirmyg y storm, ac oddi ar yr ychydig a oedd ar y canghennau, disgynnai dafnau glaw fel dagrau hiraeth. Dywedai Natur mewn iaith ddidroi'n-ôl fod yr haf drosodd. Tua hwyr y dydd, daeth niwl tew i guddio bro a bryn.
Ond er prudded y tymor, llon iawn oedd calonnau'r plant y bore hwnnw. Cawsant wisgo eu dillad dydd Sul a'u hesgidiau i fynd i'r ysgol, ac yr oedd honno wedi ei glanhau a'i haddurno, fel mai o'r braidd y gellid ei hadnabod. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd wedi ei osod, a lliain gorwych drosto, ac ar hwn gwelai'r plant swp o flodau hardd mewn llestr, a nifer fawr o lyfrau deniadol yr olwg. Crynhowyd y disgyblion at ei gilydd yn un dosbarth mawr i aros dyfodiad y gŵr dieithr, ac yn fuan, clywyd curo ar y drws, ac ef oedd yno.
Dyn tal, llednais yr olwg a'i wallt a'i farf fel y gwlân, oedd Mr. Puw. Heb wybod paham, teimlai y twr plant, fach a mawr, ar unwaith wrth eu bodd yn ei gwmni. Wedi ychydig ymddiddan â'r meistr, a chyn dechrau cyflwyno'r gwobrwyon, cododd ar ei draed, dywedodd wrth y plant fod ganddo neges iddynt, a'i fod am iddynt oll wrando. Ym meddwl mwy nag un o'i wrandawyr ieuainc, arhosodd sylwedd ei eiriau dwys am byth. Tebyg i hyn oeddynt-
ANNWYL BLANT,
"Da iawn gennyf cael cyfle i'ch annerch, chwi blant bychain o Gymry ynghanol y wlad. Ar fyr, byddwch wedi tyfu'n ddynion ac yn ferched, a chwi, ac eraill fel chwi, fydd yn cario achos Cymru yn y blaen. Am hynny, hoffwn ddweud rhywbeth heddiw a fydd o les i chwi, ac a gofiwch byth pa le bynnag y byddoch.
"Fel y gwyddoch, mae llawer o wahanol genhedloedd yn y byd. Cymry ydym ni, Saeson sydd yn ein hymyl yn Lloegr, Ffrancwyr yn Ffrainc, Ellmynwyr yn yr Almaen, Eidalwyr yn yr Eidal, ac felly yn y blaen. Mae'r cenhedloedd hyn i gyd yn wahanol i'w gilydd-un yn dda yn y peth hwn, y llall yn rhagori yn y peth arall, ac nid yw'r un ohonom yn berffaith. Ond yr wyf am i chwi wybod mor dda yw gen i mai Cymro ydwyf. Mae'n well gen i am Gymru nag am un wlad arall dan haul. Gwell fyddai gennyf fod yn Gymro tlawd nag yn ddyn o fri i genedl arall. Os ymffrostio mewn dim, ymffrostio a wnaf am fy mod yn Gymro, ac yr wyf am i chwithau ddysgu ymfalchïo am yr un peth.
Cofiwch ddod yn gyfarwydd â llenyddiaeth eich gwlad. Astudiwch lenyddiaeth Saesneg, ond astudiwch lenyddiaeth eich gwlad eich hun yn gyntaf. Mynnwch wybod rhywbeth am Dafydd ap Gwilym, Elis Wyn, Goronwy Owen, Dewi Wyn, Eben Fardd, Islwyn, Ceiriog, a Daniel Owen.
'Eto, dysgwch hanes dynion mawr Cymru. Mynnwch wybod hanes eich gwlad. Mae Cymru o —— ydyw —— mae Cymru wedi magu arwyr, a chaniataed Duw iddi fagu rhai eto- mae eu heisiau arnom heddiw. Cofiwch wrth ddarllen am Nelson a Wellington a Napoleon fod dynion cyn ddewred a dewrach na'r rhain wedi byw yng Nghymru. Darllenwch hanes Llywelyn, ac Owen Glyndŵr a John Penri. Mae llawn cymaint, a mwy o ramant yn hanes y rhai hyn, a gwna fwy o les i chwi am mai er mwyn Cymru—er eich mwyn chwi-y buont ddewr.
Ysgwn i faint sydd yma a fynnai fyw i wneud rhywbeth dros ei wlad? Cofiwch hyn, ynteu-os mynnwch ddod yn fawr mewn unrhyw gyfeiriad, fel Cymry y gellwch ddod yn fawr. Ni ddaw'r un Cymro byth yn fawr wrth geisio troi'n Sais. Ni ddaeth neb erioed yn fawr wrth wadu ei wlad a'i iaith. Cofiwch Henry Richard, Ieuan Gwynedd, Tom Elis! Sefyll dros Gymru fel Cymry a wnaethant hwy. Dyna paham y daeth y byd i wybod am danynt ac i wrando arnynt.
Pan dyfoch i fyny, a mynd, rai ohonoch, i fyw i'r trefi a'r lleoedd poblog, chwi gewch weld llawer o Gymry yn ceisio byw fel Saeson, a siarad fel Saeson. Gwlad fechan yw Cymru, a phan ddaeth y Sais yma, a'i gyfoeth a'i blasau, ei ddysg a'i ddeddfau, meddyliodd rhai pobl anwybodus a oedd yn byw yng Nghymru ac yr oedd yma lawer yn anwybodus y pryd hynny-fod rhaid troi'n Saeson os am fod yn barchus yn y byd! Mae pethau wedi newid erbyn hyn. Mae Cymru heddiw ar y blaen mewn addysg, ond y mae rhai pobl anwybodus eto ar ôl, y rhai a'i cyfrifant hi'n anrhydedd i fethu â siarad iaith eu mam! A glywsoch chi am beth mor ffôl erioed? Naddo, mi wn. Dysgwch gasáu'r hen arfer ffiaidd yma. Tosturiwch dros y rhai sydd yn euog ohoni-rhai anwybodus heb wybod eu bod felly; ac O, blant bychain, gwyliwch rhag syrthio i'r un camwedd eich hunain. O achos y pechod hwn y bu ein gwlad gyhyd ar lawr; a chwi, blant yr ardaloedd gwledig, sydd i helpu i'w chodi yn ei hôl.
Mae gan Gymru ei neges i'r byd. Fe ddowch i ddeall mwy am hyn fel y tyfwch, ond ni all Cymru wneud ei gwaith oni bydd ei phlant yn ffyddlon iddi. Beth bynnag yw ei ffaeleddau, mae cenedl y Cymry wedi ei chodi yn nes i'r nef na'r un genedl arall. Mewn cariad at addysg, at gartref, at bethau gorau bywyd, hi sydd ar y blaen. Dysgwch ymfalchio ynddi! Darllenwch hanes ei dynion gorau. Bydded eich sêl fel eu sêl hwy, a pha un a fyddoch ai mawr ai bach, ai enwog ai anenwog, byddwch fyw yn addurn i'ch gwlad, a bydd Duw, a fu mor amlwg gyda'ch tadau, yn Dduw i chwithau."
Unodd y plant gyda'r ysgolfeistr a'r ymwelwyr i guro eu dwylo fel arwydd o gymeradwyaeth i'r anerchiad cynnes a gwlatgar a glywsent.
Wedi rhannu'r gwobrwyon, hysbysodd y meistr na fyddai ysgol yn y prynhawn, ac aeth y plant allan gan fanllefu fel plant ym mhobman arall.