Neidio i'r cynnwys

Teulu Bach Nantoer/Pennod VII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VI Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VIII

PENNOD VII

AR brynhawn dydd y gwobrwyo, gan nad oedd ysgol, cafodd y tri phlentyn waith wrth eu bodd. Cawsant fynd i Fronifor i helpu dyrnu tas wenith gyntaf y tymor. Eiry fach yn unig, felly, a oedd gartref gyda'i mam.

Lle llawn o ryfeddodau ar amser o'r fath oedd yr ysgubor eang honno. Ar un ochr, yr oedd pentwr anferth o ysgubau, a gludwyd i mewn o'r das y bore hwnnw. Gwaith un o'r gweision a Ieuan oedd datod y rhai hynny a'u taflu i ben y peiriant uchel oedd yn rhuo, yn oernadu, ac yn crynu ar y llawr yn ymyl. Mewn math o bulpud ar ben hwnnw, yr oedd Daniel, y gwas mawr. Ei waith ef oedd agor yr ysgubau a'u taflu i mewn i enau agored y peiriant. O'r tu mewn i hwnnw, rywfodd, gwahenid yr ŷd a'r tywys, a lluchid y gwellt allan yn chwyrn un ffordd, a'r grawn gwenith ffordd arall. Sathru'r gwellt oedd gwaith Alun a Mair, a chaent redeg a chwarae faint a fynnent ynddo. Cyn diwedd y gwaith, yr oedd y pentwr ysgubau ar y naill ochr, ar lawr yn isel, a'r gwellt a hwythau ar yr ochr arall gyfuwch â'r tô, a byddai'n rhaid iddynt gael help un o'r gweision i ddisgyn o'u mangre uchel.

Tua phump o'r gloch, tra oedd y plant a'r gweithwyr oll ar eu ffordd i'r tŷ i gael bwyd wedi gorffen dyrnu, clywent weiddi uchel trwy'r niwl o gyfeiriad Nantoer. Llais Gwen Owen oedd, ac yr oedd sŵn wylo ynddo. Rhedodd pawb am y cyntaf at y bwthyn, a chawsant y fam yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o gylch y fan fel pe bai wedi gwallgofi.

"O," ebe hi, mae Eiry fach ar goll. 'Rwy'n methu ei gweld yn unman."

O'r braidd y medrai, yn ei hing, adrodd yr hanes. Yr oedd Eiry wedi cysgu yn ei chôl, fel y gwnai ambell brynhawn. Rhoesai hithau yr un fach yn ei dillad, fel ag yr oedd, i orwedd ar y gwely tra byddai hi'n glanhau'r beudy, rhoi'r fuwch i mewn, a rhoi bwyd iddi. Ni fu allan hanner awr i gyd. Pan ddaeth i mewn, nid oedd Eiry yn y gwely. Nid oedd yno ond y fan lle bu. Nid oedd yn unman yn y tŷ nac allan. Galwodd arni drachefn a thrachefn, ond nid atebodd neb. Rhedodd i'r ardd a thrwy'r lôn fach i'r cae, yn ôl trwy'r beudy, ac eilwaith i bob rhan o'r tŷ. Ond nid oedd Eiry yno. Y niwl llaith oedd o'i chylch ym mhobman, a rhu yr afon fach oedd yr unig sain a glywai. Bryd hwnnw y gwaeddodd yn ei gofid, ac y clywyd hi ym Mronifor-bedwar lled cae oddi yno.

Rhedodd pawb i chwilio-pawb yn brudd eu gwedd, a Mair a'i mam yn wylo yn hidl. Ble gallasai Eiry fach fod? Ai tybed iddi ddihuno a chodi o'r gwely i edrych am ei mam? Ond nid oedd dim i ddangos pa ffordd yr aeth. A oedd rhywrai wedi mynd i'r tŷ a'i chipio i ffwrdd gyda hwy? Na, amhosibl, neu buasai Gwen Owen wedi eu clywed yn pasio'r beudy, oherwydd os deuai neb, y ffordd hon y deuai. Nid oedd neb byth yn dod o gyfeiriad y rhos. Gan gymaint o ddail oedd ar y llawr, ni welid ôl troed yn unman. Beiai'r fam ei hun am adael y drws heb ei gloi, ond gwyddai pawb na wnaeth ond yr hyn a wnai pawb bob dydd. Nid oedd dynion drwg i'w cael y ffordd honno, ac ni chloai neb ei ddrws oni byddai'n gadael cartref am oriau ac yn mynd bellter. Ac yr oedd Eiry wedi bod ddegau o weithiau ei hun yn y tŷ fel ar y prynhawn hwnnw.

Wedi chwilio'n hir, daeth Alun o hyd i degan bychan o eiddo Eiry. Yr oedd ar ganol y cae bach, a chofiodd y fam gyda braw fod y tegan hwnnw yn llaw yr un fach pan ddododd hi yn y gwely. Rhaid, ynteu, ei bod wedi agor clwyd y cae—peth na wnaethai erioed o'r blaen—ac wedi cerdded i'r pen draw a syrthio dros y geulan i'r afon fach a redai mor chwyrn y diwrnod hwnnw. Rhedodd pawb am y cyntaf trwy'r cae i fin yr afon, a buan y gwelsant y fan lle'r oedd y ddaear wedi llithro yn ddiweddar. Ol traed Eiry fach, yn ddiau, oedd; ac O! rhaid ei bod hi, erbyn hyn, yn gorff marw yn rhywle yn nyfroedd llwyd yr afon, ac feallai, wedi ei chario ymhell gan nerth y llif. Anodd oedd ganddynt gredu i un mor fechan fedru agor y glwyd, ond gwna rhai o'i hoed hi bethau rhyfedd weithiau, ac yr oedd y tegan bach yno ar y cae yn dyst didroi'n-ôl.

Nid oedd mwyach ond y gobaith y ceid ei chorff. Bu cymdogion yn chwilio trwy'r nos. Dilynwyd yr afon fach hyd y fan lle rhedai i'r Gwynli. Dilynwyd honno eilwaith hyd ymhell. Aeth sôn am y peth trwy'r wlad. Buwyd ddyddiau lawer yn edrych amdani, nes i'r dyfroedd gilio drachefn a dod yn ddigon clir fel y gellid gweld y gwaelod. Ond ni welodd neb Eiry fach. Ni chafwyd ei chorff yn ôl i wylo drosto. Ni chaed plannu blodau ar ei bedd. Aeth hi, y dlysaf a'r lonnaf ohonynt, yn sydyn o'u gwydd ac ni wyddai neb i ba le. Ac yn hir, hir, ar ôl hynny, teulu trist iawn fu teulu bach Nantoer.

Nodiadau

[golygu]