Teulu Bach Nantoer/Pennod VIII
← Pennod VII | Teulu Bach Nantoer gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod IX → |
PENNOD VIII
ER mor wahanol oedd aelwyd y bwthyn bach wedi colli Eiry, aeth y byd yn ei flaen fel cynt. Daeth un dydd ar ôl y llall, nes i'r peth a oedd mor newydd a chyffrous gilio ymhell i'r gorffennol. Mynych, mynych, er hynny, gyda brig yr hwyr, yr âi Gwen Owen allan i'r cae bach, gan gerdded yn araf gyda glan yr afon a syllu i lawr i'w dyfroedd fel pe o hyd yn disgwyl gair o hanes ei merch fach. Dilynai Mair hi bob amser, gan gydio yn ei llaw a mynd gyda hi heb holi i ble'r âi, na phaham. Ond sisial ganu'n felys wnai'r afonig, yr un fath â honno y sonia Ceiriog amdani, fel pe heb wybod dim am ofid byd.
Ymhen tua blwyddyn, daeth yn amser i Ieuan adael yr ysgol, a pha grefft i'w rhoi iddo oedd y pwnc mawr a lanwai feddwl ei fam. Byd llyfrau oedd byd Ieuan. Eisiau dysgu a dysgu a oedd arno o hyd. Eithr cyn cael addysg dda, rhaid cael arian o rywle. Nid oedd arian gan Ieuan. Yr oedd yr amser wedi dod iddo ennill ei fwyd ei hun, ac i fachgen tlawd, heb dad, nid oedd ond un drws yn agored yn y wlad, sef bod yn was bach mewn fferm. Felly y bu yn hanes Ieuan. Y calangaeaf hwnnw, cyn ei fod lawn pedair ar ddeg oed, cyflogwyd ef ym Mronifor am bum punt y flwyddyn. Blin, blin, oedd gan ei fam ei weld yn gadael ei gartref am y tro cyntaf, ond yr oedd Bronifor yn ymyl. Cai ei weld bron pob dydd, allan ar y caeau neu yn rhywle arall. Hefyd, pan fyddai Alun a Mair ar eu ffordd adref o'r ysgol, aent yn fynych i ben un o'r cloddiau, a chwibanai Alun rhwng ei fysedd nes tynnu sylw Ieuan. Gwnai yntau yr un peth yn ôl, ac ysgydwai Mair ei llaw arno. Yna, wedi'r arwydd fechan honno, âi'r ddau adref, ac âi Ieuan ymlaen â'i waith.
Yn y gaeaf, prif waith y gwas bach ar y fferm fyddai porthi'r anifeiliaid. Byddai'n rhaid iddo helpu gyda thorri'r gwellt, torri'r erfin, cymysgu'r rhai hyn a'u cario i'r anifeiliaid, etc. Deuai'r dyrnu a'r nithio hefyd yn eu tro. Yn y gwanwyn, cai weithiau helpu trin y tir. Ef fyddai'n dilyn yr oged. Gwaith wrth ei fodd fyddai hwnnw, er y gwnai iddo flino'n enbyd. Yn yr haf a'r hydref, deuai'r cynhaeaf gwair a'r cynhaeaf ŷd â digon o waith ac o bleser iddo.
Ond yng nghist fechan Ieuan, yn ei ystafell wely, yn llofft yr ystabl, ceid rhywbeth heblaw dillad. Yr oedd yno stôr fechan o lyfrau, rhai o'i lyfrau ysgol, a rhai a gawsai'n fenthyg gan hwn ac arall; a mynych, tra byddai Daniel, y gwas mawr, yn cysgu'n esmwyth ar y gwely, a'r ceffylau un ar ôl y llall yn gorffen cnoi, yn gorwedd ac yn distewi, byddai Ieuan yno ar bwys ei gist, ar yr hon yr oedd cannwyll mewn llusern, yn prysur ddarllen ymhell i'r nos.