Neidio i'r cynnwys

Teulu Bach Nantoer/Pennod XIV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIII Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Geirfa

PENNOD XIV

TYNNODD Mr. Llewelyn Morgan ryw bapurau o'i logell a dechreudd ei stori ar unwaith.

'Cafwyd y llythyr hwn ymysg papurau Mrs. Isabel May, y wraig a fu yn lle mam i'r ferch ieuanc yma (gan gyfeirio at Eiry). Bu hi farw chwe wythnos yn ôl yn ei chartref yn Hamilton. Yn ei hewyllys, ymysg pethau eraill, gofynnai i mi gyfieithu'r llythyr a chario allan ei gorchymyn hi ynglŷn ag ef. Yr oeddwn i ddod gyda Miss May i Gymru, chwilio am ei theulu, a'i chyflwyno yn ôl iddynt gydag eglurhad o'r modd y dygwyd hi. Wedi cyrraedd Lerpwl, ysgrifennais yma er mwyn cael gwybod a oeddech yn byw yma o hyd; cefais ateb, ac wele ni. Yn awr, caiff y llythyr ei esbonio ei hun."

Gwrandawai'r teulu bach yn astud tra darllenai Mr. Morgan gyffes hynod un oedd erbyn hyn mewn byd arall,-yn rhy bell oddi wrthynt i dderbyn cerydd na maddeuant.

HAMILTON,
Ionawr 1af, 1897.

Yn haf y flwyddyn 1883 daeth fy mhriod a minnau i Gymru am dro. Wrth fynd i Lanywerydd, deuthum ar ddamwain gyffyrddiad â phedwar o blant bychain yn chwarae ar y rhos. Synnwyd fi gan dlysni'r un fechan ieuengaf, Eiry. Ymserchais ynddi o'r awr honno, a dymunwn ei gweld eilwaith. Cefais fy nymuniad. Gwelais hi yng Nglanywerydd gyda'i mam a'i chwaer, ac euthum yn fwy hoff fyth ohoni. Meddyliwn yn brudd, pam na chawn i ferch fechan felly pan oedd gennyf ddigon o arian i'w dwyn i fyny yn briodol, tra oedd y fam hon yn dlawd, a'r fath blant tlws ganddi. Dri mis ymhellach, wrth ddychwelyd, nid oedd gyrrwr gennym. Fy mhriod a minnau yn unig oedd yn y cerbyd. Mynnais gael mynd i lawr i'r bwthyn i weld y plentyn unwaith eto. Yr oedd rhywbeth o'm mewn yn gwneud i mi fynd. Gwyddwn, wrth yr hyn a ddywedai'r plant, nad oedd eisiau ond croesi'r rhos o'r ffordd uchaf. Yr oedd yn glir bryd hwnnw, ond pan oeddwn yn nesau at y bwthyn, daeth niwl tew yn sydyn i guddio pob man. Euthum at y drws. Curais, ond ni chefais atebiad. Agorais ef, ac euthum i mewn. Nid oedd neb yno neb ond yr un fechan a hoffwn yn gorwedd ar y gwely. Gwelais fy nghyfle y plentyn yn cysgu, heb neb yn y tŷ, a'r niwl ym mhobman. Meddwl newydd hollol oedd, nid oeddwn wedi bwriadu dim o'r fath wrth ddod lawr. Rhedais allan. Edrychais i bob man, a gwrandewais. Ni welais neb, ac ni chlywn ond rhu'r afon yn y cae gerllaw. Gwelais y glwyd a arweiniai ati, a gwnes fy mhenderfyniad. Yr oedd gennyf glôg am danaf. Rhoddais ef am y plentyn, gan ei chodi yn ei chwsg a'i gwasgu at fy nghalon. Yr oedd tegan bychan yn ei llaw. Teflais ef â holl nerth fy mraich i'r cae tua chyfeiriad yr afon, a dymunais y gwnai ei waith drwy dynnu sylw pobl at y ffordd honno, a pheri iddynt feddwl fod yr un fach wedi boddi. Cyrhaeddais y ffordd a'r cerbyd; ac er cymaint a wrthwynebai fy mhriod, mynnais gael fy ewyllys. Yr oeddwn mor wyllt fy ngwedd nes yr oedd arno ofn fy nghroesi. Yr oedd mantell arall gennyf yn y cerbyd. Rhwymais honno am Eiry, fel nad oedd berygl i neb weld ei gwisg. Yr oeddem yn hwylio drannoeth i America, a gwyddwn, os gwnai y tegan bach ei waith, ac os cawn y plentyn unwaith ar fwrdd y llong, y byddai popeth yn iawn. Felly y bu. Prynais ystôr o ddillad bychain iddi yn Lerpwl. Bu hi o'r dechrau mor ddiddig â phetai gyda'i mam. Dywedais wrth fy nghyfeillion yn Hamilton mai merch fach i chwaer fy mhriod oedd, yn cael ei dwyn i fyny gennym ni.

Galwasom hi yn "Elsie—Elsie May," ac yn fuan, ni chofiai hi o gwbl am "Eiry na neb o deulu'r bwthyn. Da i mi nad oedd ond prin tair oed ar y pryd. Gan fod fy mhriod yn Gymro, dysgasom hi i arfer y ddwy iaith. Treuliasom un flwyddyn ar ôl y llall yn llawen fel chwedl. Ceisiwn feddwl fod y lles yr oeddwn yn ei wneud i'r un fechan yn gwneud i fyny am yr ing a barodd fy ngweithred i'r fam.

Yn 1896, cyfarfu fy mhriod â'i angau drwy foddi, a bu agos i'r un a alwn yn ferch, ac a garwn fel fy merch fy hun, foddi hefyd. Achubwyd hi gan ei brawd. Cofiwn enwau'r plant er y dydd cyntaf hwnnw ar y rhos, a phan glywais yr enw "Alun Owen," syllais arno ac adwaenais ef. Onid oedd ei lygaid yn union fel rhai Eiry? Pan welais y llygaid hynny yn edrych arnaf, a'i weld ef yn rhoi ei chwaer fechan yn ôl i mi o grafangau angau, tra'i galon fach ei hun wedi bod yn ddiau yn brudd amdani lawer gwaith, teimlais fy mai i'r byw. Meddyliwn fod Duw yn edrych arnaf drwy lygaid clir y morwr bach, a chredwn Ei fod, drwy gymryd fy mhriod mor sydyn, am fy nwyn ataf fy hun. O'r dydd hwnnw, ni chefais hedd i'm bron, a theimlwn, rywfodd, fod fy amser innau yn tynnu at y terfyn.

Trefnaf, felly, fod Eiry, wedi i mi farw, i gael ei dwyn yn ôl at ei theulu, a gobeithiaf fod ei mam yn fyw, ac y caf faddeuant ganddi. Unig oeddwn, ac mor siomedig; ac ymglymodd fy nghalon gymaint am ei merch fechan, dlos, a meddyliais yn y niwl a'r unigedd hwnnw ger y bwthyn fod nef a daear o'm tu. Dyma fi wedi ei magu yn dyner, ac wedi rhoi addysg dda iddi. Bu hithau'n ferch dda i mi heb erioed wybod fod ei mam ei hun yn fyw. Diolch am ei benthyg! Gwelwch, yn ôl fy ewyllys, fod fy arian a'm meddiannau i gyd iddi hi i wneud fel y mynno â hwy. {{c|(Arwyddwyd) ISABEL MAY.}]

Diwrnod rhyfedd fu hwnnw yn Nantoer, a diwrnodau rhyfedd fu y rhai dilynol. Meddyliai'r mam yn fynych mai breuddwyd oedd y cyfan, ac y dihunai ryw fore gan deimlo'r ing yn ei chalon am Eiry fel o'r blaen. Ond yn raddol, daethant yn gyfarwydd â'u dedwyddwch. Erbyn hyn, nid oes deulu hapusach o fewn y byd. Yn agos i'r bwthyn, rhyngddo â'r ffordd fawr, y mae ganddynt dŷ newydd hardd, ac yno y mae Mair ac Eiry yn llonni'r lle, ac yn gwneud popeth a allant i sirioli bywyd eu mam. Yno hefyd y daw ar ei dro Ieuan Owen, yr Aelod Seneddol ieuanc, brwdfrydig a phoblogaidd. Daw hefyd mor fynych ag y gallo y Capten Alun Owen o'r môr. Y mae ei fam a'i ddwy chwaer wedi bod eisoes am fordaith yn ei long. Dywed ef, na fyddai Eiry hyd eto wedi ei chael oni bai iddo ef, ers llawer dydd yn ôl, fynnu bod yn forwr.

Nid byw iddynt eu hunain a wnânt. Yr un fam dyner, ddiwyd a da, sydd yn y tŷ newydd ag a oedd gynt yn y bwthyn, a'i gair hi yw deddf y plant o hyd. Y mae eu hardal, eu gwlad, a'r byd yn well ohonynt.

Hyd yma y dilynwn eu hanes. Gadawn hwy oll yn wyn eu byd.

Nodiadau

[golygu]