Ti, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl

Oddi ar Wicidestun
Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen Ti, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl

gan Walter Chalmers Smith


wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones
Cyduned Seion lân

93[1] Ti Dduw Unig Ddoeth.
11. 11. 11. 11.

TI, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl,
Tragywydd wyt Ti, nid oes lygad a'th wêl.
Dy rym a'th ogoniant byth bythoedd yn bod,
Bendigaid, goruchel, i'th enw rhown glod.

2 Heb orffwys, heb frysio, mor dawel â'r dydd,
Heb brinder, heb orfod, a fynni a fydd ;
Cadarnach dy farn na'r mynyddoedd mawr iawn;
A daw o'th gymylau bob cariad a dawn.

3 Tydi a rydd fywyd i fychan a mawr,
Tydi ym mhob bywyd yw'r bywyd bob awr ;
Blagurwn, heneiddiwn, fel dail ar y coed,
Heneiddiwn, diflannwn, a Thi fel erioed.

4 Ti, Dad y Gogoniant a'r golau uwchben,
Fe'th fawl yr angylion, a'u golau tan len;
Dod gymorth, pob moliant a roddwn i Ti,
Ysblander y golau a'th gudd rhagom ni.

W. CHALMERS SMITH, cyf. Thomas Gwynn Jones

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 93, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930