Cyduned Seion lân

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cyduned Seion lân yn emyn gan James Hughes (Iago Trichrug) (1779 – 1844)

Cyn bod gwres i'r haul teswawr, A gorphen ffurfafen fawr, Difai y creawdd Dofydd Olau teg a elwid dydd; A Duw, gan hyfryted oedd, Dywedai mai da ydoedd; Cywraint fysedd a neddair!

Ble gwelir cariad fel
ei ryfedd gariad ef?
Ble bu cyffelyb iddo erioed?
Rhyfeddod nef y nef!

Fe’n carodd cyn ein bod,
a’i briod Fab a roes,
yn ôl amodau hen y llw,
i farw ar y groes.

Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
brynhawn ar Galfarî:
yn ei gyfiawnder pur di-lyth
mae noddfa byth i ni.