Ti, Iesu, Frenin nef

Oddi ar Wicidestun
Cyduned Seion lân Ti, Iesu, Frenin nef

gan William Williams, Pantycelyn

Yn nodded gras y nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

95[1] Haeddiant y Groes.
M. B.

TI, Iesu, Frenin nef,
F' Anwylyd i a'm Duw!
Yn eithaf pell o dy fy Nhad,
Mewn anial wlad, 'r wy'n byw.


2 Mewn ofnau'r wyf, a braw,
Bob llaw gelynion sydd ;
O! addfwyn Iesu, saf o'm rhan,
A thyn y gwan yn rhydd.

3 Mae rhinwedd yn dy waed
I faddau beiau mwy
Nag y gall angel chwaith na dyn,
Byth rifo monynt hwy.

4 Mae ffynnon ar y bryn
A ylch yn wyn a glân
Bechodau o'r ffieiddia' 'rioed
Rifedi'r tywod mân.

5 'D oes diwedd fyth na thrai
Ar gariad angau loes;
Uwch pris o'r gwerthfawrocaf gaed
Yw haeddiant gwaed y groes.

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 95, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930