Yn nodded gras y nef

Oddi ar Wicidestun
Ti, Iesu, Frenin nef Yn nodded gras y nef

gan Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

Tosturi dwyfol fawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

96 Nodded Gras y Nef.
M. B.

1 YN nodded gras y nef
Wynebwn ar y byd;
Nid ofnwn ei drallodion ef,
Na'i demtasiynau i gyd.

2 Er maint ei lafur blin
A'i aml ofidiau maith,
Fe leddfa Duw yr arw hin,
Fe ysgafnha y gwaith.

3 Yn haeddiant gwaed y Groes
Wynebwn orsedd Duw;
Er amled yw pechodau oes
Cawn yn ei gysgod fyw.


4.Yng nghwmni Iesu Grist
Wynebwn angau prudd;
Try Ef y nos-gysgodau trist
Yn hyfryd fore-ddydd.

5.Wynebwn ar y bedd
Ond cael yr Iesu'n rhan,
Mewn gobaith deffro ar ei wedd,
A chodi'n iach i'r lan.

Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

Ffynhonnell[golygu]