Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd

gan O Llew Owain

Cynhwysiad

RHAGAIR

Ni fwriedir i'r llyfryn bychan hwn fod yn Gofiant i'r diweddar a'r annwyl Tom Ellis. Deallaf y bwriedir dwyn allan Gofìant, teilwng, iddo cyn pen hir, yr hwn fydd yn cynnwys ei holl hanes yn fanwl a. helaeth.

Ceisiais ysgrifennu'r pennodau hyn yn syml; gadewais allan, yn fwriadol, fanylion ei fywyd, gan fodloni ar y prif ffeithiau yn unig, gan fod y llyfr wedi ei fwriadu ar gyfer bechgyn a genethod ieuanc sydd a'u hwynebau ar gyfandir bywyd. Pwysicach i'm golwg i fydd iddynt yfed o'i ysbryd—cânt ymgydnabyddu â'r ffeithiau eto. Os y cymer yr ieuenctid ei lwybr ef fel nôd o'u blaenau gall ein gwlad fanteisio arnynt ymhob cyfeiriad.

Cwynir fod ein hiaith yn colli yn nhrefi glanau'r moroedd, ar y gororau, yn y dinasoedd a'r trefi poblog, ac yn yr ardaloedd gweithfaol mawr. Ffaith brudd yw hon i bob un sydd yn caru ei wlad. Pe y gwnai pob llanc a geneth sydd yn Ysgolion Elfenol ac Ysgolion Canolradd Cymru benderfyniad i fod mor ffyddlon i iaith a defion ei wlad ag y bu gwrthrych y pennodau hyn, a phe yi' yfent o'i ysbryd, buan y diflannai'r gwyn.

Hoffwn i'r pennodau hyn fod yn gyfrwng i ieuenctid Cymru i benderfynnu gwneud eu goreu dros ei hiaith, ei haddysg, a'i chrefydd. Gwnaeth y gwrthrych hynny, ac ond iddynt hwythau ddilyn ol ei droed bydd Cymru yn burach, yn gryfach, ac yn wynach nag erioed.

Yn wladgar,

O. Llew Owain.

Rhagfyr, 1915