Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd

gan O Llew Owain

Rhagair

RHAGYMADRODD

Yr oedd Mr. Thomas Edward Ellis, yn ddiameu, yn un o'r dynion hoffus a da hynny y dylai'r wlad a'u mago fod yn gynefin â holl fanylion eu hanes. Gresyn na bae gennym eisoes gofiant llawn iddo, ond y mae ein bod hebddo yn gytûn ddigon â'i wyleidddra ef ei hun. Fel y dengys Mr. Owain mor hyawdl yn y llyfr hwn, ganed ef yn un o siroedd mwyaf Cymreig Cymru, yn fab i amaethwr, un o'r dosbarth a gadwodd ddiwylliant ac arferion bonheddig hen uchelwyr Cymru gynt. Yr oedd yn un o'r to cyntaf o Gymry ieuainc a addysgwyd yng Ngholeg cyntaf Cymru, yn Aberystwyth, a gwnaeth enw iddo ei hun wedi hynny yn un o'r Prifysgolion Seisnig. Daeth i gysylltiad â'r wasg, a bu'n athro. Gwelodd bob angen cyhoeddus a chymdeithasol oedd ar Gymru yn ei ddydd, fel y dengys ei areithiau a'i ysgrifau, a gyhoeddwyd gan ei weddw yn 1912. Aeth i mewn i wleidyddiaeth yng ngwres ei weledigaeth ieuanc a hael, ac ni ddifwynwyd ei ysbryd gan y pethau salw y mae cymaint o wleidyddion yn eu gwneuthur er mwyn ennill safle, a'i gadw ar ôl ei ennill. Yng ngrym ei allu a'i gymeriad, daeth i un o'r swyddi pwysicaf ac anhawddaf yn y Senedd, a gwnaeth ei waith yn y fath fodd fel nad oedd gan hyd yn oed ei wrthwynebwyr gwleidyddol ond y gair uchaf i'w ddywedyd am dano—ac fe'i dywedasant. Eto, ni chafwyd erioed mono yn esgeuluso dim a ystyriai ef yn ddyledswydd, nag yn llefaru â deilen ar ei dafod. Gweithiodd yn galed, llwyddiannus,—a glân. Un o'r pethau pennaf a darawai bawb a'i hadnabu ydoedd ei anrhydedd perffaith. Llosgodd llawer ffydd allan, ac ymfaluriodd ambell eilun yn lludw, er y dyddiau y dewiswyd Mr. Ellis yn Seneddwr, fel mai poen yw cofio'r ffydd a diflastod yw meddwl am yr eilun, bellach, ond ni ddug y blynyddoedd ddim a'i syflodd nag a'i llychwinodd ef. Cadwodd holl uniondeb hael ei weledigaeth i'r diwedd. Am hynny y bydd ef byth yn un y dylai pob Cymro a Chymraes wybod ei hanes.

Y mae'n ddiau gennyf y bydd traethawd Mr. Owain yn foddion i drosglwyddo i'r rhai na chawsant y fraint o weled na chlywed Mr. Ellis beth o'r dylanwad hygar a gaffai ef mor helaeth ar y rhai sy'n ei gofio.

T. Gwynn Jones