Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Collwyn

Oddi ar Wicidestun
Cain (Rhys) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Dafydd Ifan ab Einion

COLLWYN ydoedd fab i Tango ab Cadfael, ac yn gyff teulu un o bymtheg llwyth Gwynedd. Yr oedd yn Arglwydd Ardudwy ac Eifionydd, a rhan o Leyn; ac yn byw yn Nghastell Harddlech, pa un a adgyweiriwyd ganddo, am hyny gelwid y lle yn Gaer Collwyn, yn lle Tŵr Bronwen, fel y gelwid ef gynt. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y bu Collwyn, a'i dylwythau ar ei ol, yn trigo yma; ond fe ddywedir fod ei hiliogaeth yn ddynion ardderchog a rhinweddol iawn, ac y cyfrifid hwynt yn agosaf at у tywysogion a'u hiliogaeth. Y mae lliaws o deuluoedd ein gwlad yn yr oes hon yn alluog i olrhain eu hachau iddo.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Collwyn ap Tangno
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]