Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Dafydd William Pyrs
Gwedd
← Dafydd Manuel | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Davies, Hugh → |
DAFYDD WILLIAM PYRS, oedd fardd, o Gynwyd, Sir Feirionydd. Yr oedd yn byw yn 1660. Y mae cân o'i waith ar gael, mewn cysylltiad â Mathew Owen, o Langai, ar ddull ymddiddan rhwng dwy chwaer am ŵra, yn Blodeugerdd Cymru, tudal 207.—(Geir. Byw. Aberdar; Brython, cyf. IV, tudal 328.)