Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Daniel

Oddi ar Wicidestun
Ellis, Huw (telynor) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Fychan, Gruffydd, Corsygedol

EVANS, Parch. DANIEL, o'r Penrhyndeudraeth. Brodor o Langower, gerllaw y Bala, oedd D. Evans. Pan yn llanc eto, heb gyraedd ei lawn dwf, canfu Mr. Charles fod ynddo ddefnydd dyn a allai fod o wasanaeth yn nheyrnasy Gwaredwr, a pherswadiodd ef i adael ei dad a'i alwedigaeth, ac ymgymeryd â chadw ysgol ddyddiol Gymreig. Gyda y gorchwyl hwn y daeth efe i'r Penrhyn. Ni bu yno yn hir heb i'r hen dadau ffyddlawn a llygadog gael eu hargyhoeddi y gallai efe wasanaethu ei Dduw yn ngweinidogaeth yr efengyl yn gystal ag wrth gadw ysgol, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Symudodd wedi hyny i'r ysgol at y diweddar Barch. J. Hughes, Gwrecsam. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Ymroddodd i ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth; enillodd sefyllfa uchel a pharchus yn Nghyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel dyn o farn ac ymddiried; ac yn y naill a'r llall o'r cylchoedd hyn yr oedd ei lafur a'i ddylanwad yn dra chymeradwy. Yn raddol iawn y pallodd ei nerth a'i iechyd. Bu farw Tachwedd 7fed, 1868, mewn henaint teg, yn 80 mlwydd oed.—(Drysorfa, 1869, t.d. 31.)


Nodiadau[golygu]