Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Fychan, Gruffydd, Corsygedol
Gwedd
← Evans, Daniel | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Gruffydd, Hywel, Carneddi → |
FYCHAN, GRUFFYDD, Cors-y-gedol, yn Ardudwy. Yr oedd y Gruffydd hwn mewn bri mawr gan Jasper, Iarll Penfro, yr hwn a arosodd yn ei dŷ yn Nghors-y-gedol, pan yn dianc i Ffrainc yn amser Edward IV.; a dywedir fod Harri, Iarll Richmond, wedi hyny brenin Lloegr, gydag ef. Y mae hen dŷ yn Abermaw a elwir "Tygwyn yn Bermo," a ddywedir ei adeiladu gan Gruffydd Fychan, i'r diben, meddir, o ddal cyfeillach â phenaethiaid achos Lancaster, gan ei fod yn nes at y môr na'i balas yn Nghors-y-gedol. Ei wraig oedd Lowri, nith i Owen Fychan (Owain Glyndwr.) —(Meyrick's Dwn's Heraldry.)