Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. William, Stockport

Oddi ar Wicidestun
Evans, Parch. Robert, Llanidloes Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Evans, Parch. William, o'r Fedw Arian

EVANS, Parch. WILLIAM, oedd fab i Evan a Jane Evans, o'r Bala, lle ganwyd ef yn Mai, 1773. Canfu ei dad ynddo yn ieuanc duedd at lyfrau, ac hefyd at y weinidogaeth Gristionogol, a rhoddodd ef pan yn ieuanc o dan ofal athraw yn yr ieithoedd dysgedig, lle y bu am bum' mlynedd yn derbyn elfenau dysgeidiaeth. Dangosodd duedd a dawn at farddoniaeth Gymreig. Pan oedd yn 14 oed etholwyd ef yn feirniad ar y farddoniaeth yn eisteddfod y Bala y flwyddyn hono,—sef i gyd-feirniadu âg un o'r enw Robert Hughes. Yn 1791, derbyniwyd ef i athrofa yr Annibynwyr a gynelid y pryd hyny yn Nghroesoswallt, dan ofal y diweddar Dr. E. Williams, (wedi hyny o Rhotherham), ac ar ol hyny o dan ofal y Parch. Jenkyn Lewis, Gwrecsam, lle y dewiswyd ef yn athraw yr ieithoedd; ac ar yr un pryd helaethai ei gyrhaeddiadau, yn neillduol yn yr Hebraeg a Duwinyddiaeth. Yn 1795, ordeiniwyd ef yn weinidog cynulleidfa yn Stockport, o'r hwn le y cymerodd ran helaeth yn nhrefnyddiaeth y cyfundeb Annibynol, trwy sefydlu undeb gweinidogion a chynulleidfaoedd Sir Caerlleon. Rhoddwyd terfyn ar ei lafur, ar ol gwaeledd maith, Medi 29, 1814, yn 42 oed.—(G. Lleyn; Evang. Mag. vol. 24).


Nodiadau

[golygu]