Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. William, o'r Fedw Arian

Oddi ar Wicidestun
Evans, Parch. William, Stockport Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Evans, Parch. Foulk, Machynlleth

EVANS, Parch. WILLIAM, o'r Fedw Arian, ger y Bala, oedd un o'r pregethwyr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y cymydogaethau hyny. Bu yn llafurus a diwyd yn cyhoeddi yr efengyl ar hyd conglau tywyll o'r wlad nes yr anhwyluswyd ef gan y parlys, yr hwn a effeithiodd ar ei gof, ac a wanhaodd ei synwyrau amser cyn ei farwolaeth. Dywedir fod ei ddoniau fel pregethwr yn dragwlithog a phoblogaidd. Y mae llawer o'i hanes a'r erledigaethau chwerwon a gafodd yn Meth. Cym. a Drych yr Amseroedd: (Meth. Cym., cyf. I., t.d. 533, cyf. III., t.d. 197; Drych yr Am. t.d. 175, 213). Y mae ychydig o farddoniaeth o'i eiddo yn argraffedig:-1. "Marwnad i Jane, gwraig Mr. T. Foulkes, o'r Bala, Trefecca, 1786. " (Gwraig gyntaf Mr. Foulkes, a mam gwraig Mr. Charles). 2. "Llyfr Hymnau bychan, o waith W. Evans ac E. Parry, Llansanan."


Nodiadau

[golygu]