Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Goronwy, Befr
Gwedd
← Fychan, Mari | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Foulkes, Parch. Edward, Dolgellau → |
GORONWY, BEFR, penaeth, neu dywysog Penllyn, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y bumed ganrif. Y mae yn cael ei gofnodi yn y Trioedd fel blaenor у " tri anniwair deulu," neu lwythau anffyddlon Prydain; oblegyd mewn brwydr a ymladdwyd yn Cynfal yn Ardudwy, ni ddaeth yr un o honynt ymlaen i'w amddiffyn rhag gwaewffon wenwynig Llew Llawgyffes. Galwyd y lle y syrthiodd yn Llech Oronwy. Y ddau lwyth arall oedd eiddo y brodyr Gwrgi a Peredur, ac Alan Forgan.—(Myf. Arch. II. 3, 16, 770.)