Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Fychan, Mari
← Fychan, Rowland | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Goronwy, Befr → |
FYCHAN, MARI, a adnabyddid yn y byd barddonol wrth yr enw Gwerfyl Mechain,[1] oedd ferch i Hywel Fychan o Gaer Gai, yn Mhenllyn, ac yn byw rhwng 1460 a 1490. Yr oedd у farddones olaf yn ei hoes. Ymysg ei gweithiau barddonol, ceir "Cywydd ar Ddyoddefaint Crist," a " Chywydd y March Glas," y naill yn rhagori mewn symlrwydd a chywirdeb desgrifiadol, a'r llall yn arucheledd ei feddylddrychau a chywreindeb ei ddarluniad. Pan ddarfu i geffyl ei thad orwedd gan flinder ar yr âr wrth lyfnu, hi wnaeth yr englyn a ganlyn i erfyn am wair i'r march lluddiedig:—
Hen geffyl, gogul di gigog,—sypyn
Swper brain a phiog;
Ceisio ' rwyf—mae'n cashau'r ôg
Wair i Iuddew gorweddiog.
Canodd Gutto'r Glyn farwnad ar ei hol, ymha un y dywed:—
Am guddio hon mae gwaedd hir—
Ei Chywyddau ni chuddir.
Geilw hi yn "ferch i Tallwg," ond nid yw hyny ond dull cyffredin gan hen feirdd yr hen amser o alw rhywun yn fab neu ferch rhyw hynafiad enwog. Claddwyd hi yn Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ nb:Roedd Gwerful Fychan a Gwerful Mechain yn ddwy brydyddes wahanol