Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Griffith, Parch. Robert

Oddi ar Wicidestun
Fychan, Robert Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Gruffydd ab Adda ab Dafydd

GRIFFITH, Parch. ROBERT, ydoedd fab i Griffith a Mary Roberts, o Dafarn y Ty Mawr, Dolgellau, ac a anwyd Hydref 13eg, 1770. Ymunodd yn ieuanc â chymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd. Cawsai ysgol led dda, gyda golwg ar iddo fyned yn swyddog yn y gyllidfa, yn yr hyn y methodd. Ymgrwydrodd oddicartref hyd Liverpool, mewn cysylltiad â rhyw alwedigaeth arall. Arferai pan yno, ar bob hamdden a allai hebgor, heb esgeuluso ei gyd-gynulliad ei hun, fyned i wrando y diweddar Barch. Samuel Medley, gweinidog Saesneg poblogaidd perthynol i'r Bedyddwyr, ac o'r hwn yr oedd yn hoffus iawn. Yn nghyfnod terfysgiadau chwyldroad Ffrainc, dychwelodd i Ddolgellau, gan ymsefydlu fel masnachydd, a dechreuodd wneyd ei hun yn ddefnyddiol trwy fyned oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddiau a chynghori, yr hyn a derfynodd mewn cael ei anog i ddechreu pregethu. Yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1814, neillduwyd ef i weinyddu yr ordinhadau. Hwn oedd yr ail ordeiniad ymhlith y Methodistiaid. Er nad oedd yn rhyw hoff iawn o deithio oddicartref, gorfodid ef gan daer gymhelliadau ei gyfeillion i fyned i deithiau lled bell, yn ol arferiad y Corff, hyd i eithafoedd y Deheubarth, ac hefyd i Lundain, Manchester, &c. Yr oedd yn dwyn mawr zel dros y Gymdeithas Fiblaidd Frytanaidd a Thamor, ac efe oedd ysgrifenydd y gangen gynorthwyol o honi yn Dolgellau. Dadleuai gyda zel dros yr achos cenhadol. Yr oedd yn frwdfrydig iawn yn achos Rhyddhad y Caethion. Pan ddechreuodd yr achos dirwestol yn Nghymru, efe a'i croesawodd, ac a barhaodd yn ymdrechgar o'i blaid hyd ei ddiwedd. Gŵr o ychydig siarad oedd efe; byddai fel pe buasai wedi rhagbarotoi o'r blaen pa beth a ddywedai, gan mor ochelgar ydoedd rhag dweyd dim yn amryfus. Fel pregethwr, eglurai a chymhwysai ei faterion yn araf a phwyllog, heb ddyrchafu ei lais, na dangos un cynhyrfiad yn ei wedd na'i ddull. Ei arfer oedd lloffa addysgiadau rhwydd a buddiol oddiwrth ei destyn, gan ei gefnogi yn fynych â chymhariaethau neu hanesynau priodol. Er nad oedd yr hyn a elwid yn bregethwr poblogaidd, yr oedd gwrandawyr o archwaeth a barn yn gymeradwy o hono. Ystyrid ef yn ddyn o bwys yn y Corff. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1844, yn 74 oed.—(G. Lleyn), Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.

Nodiadau

[golygu]