Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Gruffydd ab Adda ab Dafydd
Gwedd
← Griffith, Parch. Robert | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Hughes, Catherine → |
GRUFFYDD ab ADDA ab DAFYDD, ydoedd fardd enwog, a fu byw o'r flwyddyn 1360 hyd 1390. Y mae llawer o'i ganiadau wedi cael eu diogelu mewn ysgrifen; ac y mae ffug-chwedl, neu fabinogi, a elwir "Breuddwyd Gruffydd ab Adda," wedi cael ei hargraffu yn y Greal. Lladdwyd ef yn Nolgellau, lle mae ei gorff yn gorwedd hyd heddyw. Ysgrifenwyd ei farwnad gan Dafydd ab Gwilym, ac y mae wedi ei hargraffu ymysg ei weithiau barddonol.-(Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.)