Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Gruffydd, Owen, Bwlchgwernog

Oddi ar Wicidestun
Gruffydd, Hywel, Carneddi Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Hywel, Morys ab

GRUFFYDD, OWEN, o Fwlchgwernog, Nanmor, yn Ardudwy. Efe a anwyd yn y Caegwyn, yn Nanhwynan, ac yr oedd yn ei flodau o 1760 i 1780. Yr oedd Owen Gruffydd yn gyfansoddwr rhwydd ar gerddi; ond ychydig o'i gerddi sydd ar gael yn bresenol. Dywed Mr. W. Jones iddo glywed adrodd rhan o un gerdd o'i waith a wnaethai ar ol myned i fyw o Nanhwynan i Nanmor, a'i bod yn dechreu yn debyg i hyn:

"Nanhwynan wlad enwog, a'i llwyni meillionog,

* * * *


Am dani, wlad eurad, lle ce's i nechreuad,
Haws geny roi uchena'd na chanu."

—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)


Nodiadau[golygu]