Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Huw, Rolant

Oddi ar Wicidestun
Grffith, Parch. John, Rhydywernen Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Hughes, Parch. Rowland

HUW, ROLANT, o'r Graienyn, ger y Bala. Yr oedd yn fardd da a chelfyddgar, ac yn ei fri tua chanol y ganrif ddiweddaf. Y mae yn y Blodeugerdd farwnad o'i waith i Rhys Morris, oed 88, a gladdwyd yn Llanycil yn y flwyddyn 1757."Yn y Traethodydd am 1849 ceir amryw fân chwedlau am dano, ac englynion o'i waith, sef englyn i ofyn benthyg march gan un Rolant Dafydd, clochydd Trawsfynydd, ac ymgom ddychymygol a gymerodd le rhyngddo â'r march echwyn ar ei ffordd adref.


Nodiadau

[golygu]