Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Grffith, Parch. John, Rhydywernen

Oddi ar Wicidestun
Foulkes, Parch. Thomas Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Huw, Rolant

GRFFITH, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Rhydywernen, ger y Bala. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Cablyd, yn Rhydywernen, Tachwedd 1805. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhydywernen, pan oedd yn 17 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn ol cyngor yr egwys a'r gweinidog, pan oedd yn 27 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysgiaeth i'r weinidogaeth yn Llanuwchlyn, dan arolygiaeth y Parch. Michael Jones, ac wedi hyny yn Marton, ar gyffiniau sir Amwythig, dan addysgiaeth y diweddar Barch. T. Jones, o'r lle hwn. Urddwyd ef yn Rhydywernen, yn Mehefin, 1841. Yr oedd yn hynod o ddiwyd, ffyddlawn, a llafurus fel gweinidog yr efengyl. Bu farw yn 44 mlwydd oed, ac yn yr wythfed flwyddyn o'i weinidogaeth. —(Geir. Byw., Aberdâr.)


Nodiadau

[golygu]