Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Isaac, Ffestiniog

Oddi ar Wicidestun
Jones, David, Felinganol Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, John Richard, o Ramoth

JONES, Parch. ISAAC, Ffestiniog. Ganwyd ef yn 1813. Ni chafodd fawr o fanteision dysgeidiaeth yn ei febyd. Pan yn 22 oed ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Bethania. A chyn pen hir ymgymerodd a'r gorchwyl pwysig o bregethu yr efengyl. Yn 1838 aeth i'r athrofa, dan ofal y Parch. John Jones, Marton. Ni bu yn yr athrofa ond am ychydig, oherwydd afiechyd; aeth am adeg i Ffestiniog, a bu am ysbaid yn eu cynorthwyo yn Bethania; a llafurus a llwyddianus iawn y bu yn ei dymor byr. "Byddai ei bregethau yn drefnus, ei ddrychfeddyliau yn fywiog, ei hyawdledd fel dyn ieuanc yn fawr, ac arogl crefydd ar yr oll a ddywedai." Yn y 19eg o Fawrth, 1841, pan yn 28 oed, bu farw, o'r darfodedigaeth, er colled fawr i fyd ac eglwys, yn ol pob arwyddion.


Nodiadau[golygu]