Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. John, Llangower

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. William Penybont-ar-ogwy Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lewis, Parch. George, D.D, Llanuwchlyn

JONES, Parch. JOHN, Llangower, yn Nghantref Penllyn; yr hwn wedi hyny a fu yn byw yn Ngwrecsam. Ganwyd ef yn 1797. Daeth at grefydd yn 17 oed; a dechreuodd bregethu pan yn 21 oed. Ond ni ddywedir gyda phwy enwad, gallwn dybied oddiwrth hyd ei gofiant yn Ngeiriadur Bywgraffyddol, Aberdar, mai gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Dywedir ei fod o ran ei grefydd a'i dduwioldeb cyffredinol, yn ddiargyhoedd, syml, a sobr; ac yn un oedd yn wir ymdrechol a chydag egni gyda phob achos da, ac a fyddai o lesiant cyffredinol; ac am hyny gellid ei restru, er byrcd ei oes, ymhlith enwogion Swydd Feirion. Bu farw yn agos i Bontcysylltau, ger Llangollen, yn Gorphenaf 28, 1826, yn 29 oed.—(Geir. Byw. Aberdar.)


Nodiadau

[golygu]