Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lewis, Parch. George, D.D, Llanuwchlyn

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. John, Llangower Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lloyd, Edward, A.C.

LEWIS, Parch. GEORGE, D.D., gweinidog enwog ymhlith yr Annibynwyr, a duweinydd ac awdwr enwog. Proselyt i Swydd Feirion oedd Dr. Lewis; ond bu yn Llanuwchlyn am ddeunaw mlynedd, fel y daeth i'w adnabod fel Dr. Lewis, Llanuwchlyn; ac fel y cyfryw yr adwaenir ef o hyn allan. Ganwyd ef yn y Coed, ger Caerfyrddin, yn 1763. Unig blentyn oedd i bobl fucheddol a pharchus—William a Rachel Lewis. Yr oedd ei fam yn proffesu yn yr Eglwys Wladol; ac nid oedd ei dad yn proffesu crefydd o gwbl. Felly yn yr hen Fam Eglwys y cychwynodd Dr. Lewis ei yrfa. Aeth i ysgol ar y cyntaf at y Parch. John Pritchard, offeiriad Trelech; wedi hyny at y Parch. Thomas Evans, Llanddowror; ac wedi hyny at y Parch. Owen Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Trelech; ac yn ddiweddaf at y Parch. John Griffiths, Glandwr, Swydd Benfro. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gyda'r Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1779 neu 1780, pan oedd o 16 i 17 oed. Yr oedd Dr. Lewis yn ŵr bucheddol, darllengar, ac yn gwybod yr Ysgrythyr Lân er yn fachgen. Ni bu yn hir wedi ei dderbyn heb ddechreu pregethu, ac er parotoi ei hun i'r Athrofa, aeth i ysgol drachefn at Mr. Davies, i Thalic, wedi hyny o Gastell Howel; ac oddiyno i Athrofa Caerfyrddin. Yn 1784, aeth am daith trwy'r Gogledd, a chafodd alwad oddiwrth yr ychydig frodyr Annibynol oedd yn Nghaernarfon; a chafodd ei urddo yn weinidog yno yn yr un flwyddyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus gyda phregethu ac adeiladu capelau yn Nghaernarfon a'r cymydogaethau, hyd y flwyddyn 1794. Yr oedd efe yn cadw ysgol ddyddiol hefyd yn Nghaernarfon. Pan yn Nghaernarfon, priododd y Dr., Miss Jones, ail ferch T. Jones, Ysw. Bodeiriad, o'r hon y cafodd dri o blant—dau fab ac un ferch. Yn 1794, derbyniodd alwad yr hen eglwys Llanuwchlyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus am 18 mlynedd. Yn Ionawr, 1812, symudodd i Wrecsam i gymeryd gofal yr athrofa, yn lle Dr. Jenkin Lewis, yr hwn oedd wedi der- byn galwad i fod yn athraw coleg newydd Manchester. Yr oedd eglwys Annibynol Wrecsam hefyd wedi rhoddi galwad i'r Dr. Lewis i'w bugeilio, Yn 1816, symudwyd yr athrofa o Wrecsam i Lanfyllin, er mwyn iechyd y Dr., yr hwn oedd yn dechreu gwaethygu. Yn raddol gwaethygodd ei iechyd eto yn Llanfyllin, ac yn 1821, symudwyd yr athrofa ac yntau i'r Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, lle y preswyliai mab i'r Dr. fel meddyg. Fe welir yn eglur oddiwrth y symudiadau hyn, mor weithfawr oedd Dr. Lewis fel athraw coleg! Ond er pob symudiad, bu farw, Mehefin 5, 1822, yn 59 oed. "Yr oedd efe yn hynod hoff o bobl ac ardal Llanuwchlyn. Yma yr oedd efe wedi magu mwyaf ar ei blant—yma yr oedd efe wedi ei eni ei hun fel awdwr y cyfrolau a geidw ei enw tra byddo byw llenyddiaeth grefyddol gan y genedl yn ei hiaith—yma yr oedd efe wedi treulio y blynyddoedd mwyaf dedwydd o'i oes, ac yma yr oedd efe wedi penderfynu diweddu ei ddyddiau." Rhestr o'i weithiau:—1. "Drych Ysgrythyrol, neu Gorph o Dduwinyddiaeth," 1797; tua'r flwyddyn 1802, dechreuodd ei "Esboniad" rhagorol ar y "Testament Newydd" ddyfod allan, yr hwn a orphenwyd mewn saith cyfrol wythblyg. Yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn warth ar ein cenedl fod y gweithiau hyn mor ddialwad am danynt; meiddiwn ddywedyd hefyd eu bod yn ein meddiant, ac na welsom eto, ar y cyfan, yn y Gymraeg, na Saesneg, Gorph o Dduwinyddiaeth ac Esboniad yn rhagori arnynt. Bydded i ni werthfawrogi y Doctoriaid Cymreig, pheidio haner addoli Doctoriaid Germanaidd, &c. Cyhoeddodd y Dr. amryw lyfrynau eraill :— Cyfiawnhad Pechadur trwy ffydd;" "Gorfoledd Crist ar ddeheulaw y Tad;" "Dyledswydd pawb i gredu yn Nghrist;" "Henuriaid ymhob Eglwys;" "Galwad gyffredinol yr Efengyl yn gyson âg etholedigaeth Gras;" "Holwyddoreg athrawiaethol ac ymarferol;" "Arweinydd yr Anwybodus;" "Anerchiad ymadawol i eglwys a chynulleidfa Llanuwchlyn." Dywed Dr. Williams, o Rotherham, yn ei "Christian Preacher," am "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis fel y canlyn:—"Lewis's Drych Ysgrythyrol, may be here noticed as a valuable body of divinity, and the only one of the kind composed in the British language, and is well calculated to promote the knowledge of undefiled religion." Fel y canlyn hefyd y dywed Dr. Edwards, o'r Bala, am dano, yn ei "Draethawd ar Hanes Duwinyddiaeth" yr hwn sydd ynglyn a'r argraffiad diweddaf o "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis:—" Ond, feallai, y byddai yn anhawdd cael gwell cynllun heb un drychfeddwl llywodraethol, na'r un a ddilynwyd gan Dr. Lewis," &c.; hyn a ddywed am ei gynllun. Dywed hefyd yn mhellach wrth sylwi ar "Effaith y Diwygiad Methodistaidd ar dduwinyddiaeth yn Nghymru":— "Y mae yn amlwg fod Dr. Lewis yn ddyn o feddwl cryf, ei fod wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid, ei fod yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen. Y mae wedi ffurfio ei dduwinyddiaeth ar gynllun yr awdwyr goreu, ac wedi ymgadw yn well na llawer yn yr oes o'i flaen oddiwrth bob golygiadau eithafol," &c. Yr ydym yn ystyried fod y tystiolaethau uchod oddiwrth y ddau ddyn mawr yma, yn fwy o deyrnged i Dr. Lewis na phe yr ysgrifenem ni gyfrol o'i hanes!!


Nodiadau

[golygu]