Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Edward, A.C.

Oddi ar Wicidestun
Lewis, Parch. George, D.D, Llanuwchlyn Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lloyd, Parch. Evan, Brondderw

LLOYD, EDWARD, A.C. Bu yn gweinidogaethu yn Llangower, yr hwn le sydd ar lan Llyn Tegid, ger y Bala, ddeugain mlynedd, o'r hwn le y cafodd ei ddeoli yn amser Cromwel, a bu y lle yn wag am hir amser, a bu farw yntau yn 1685. Ei fab ef oedd yr Esgob W. Lloyd, yr hwn y gwelir ei hanes yn fyr yn y traethawd hwn:—Walker's Sufferings of the Clergy, tudal 248. Cyfieithodd y Parch. Edward Lloyd ddau o lyfrau o waith Dr. Simon Patrick, esgob Ely:—1. "Egwyddor i rai ieuainc i'w cymhwyso i dderbyn y cymun sanctaidd yn fuddiol," Llundain, 1682, 12 plyg. 2." Męddyginiaeth a chysur i'r dyn helbulus, clafychus, a thrallodus ar ei glaf wely, a gasglwyd allan o'r ysgrythyrau sanctaidd, ac hefyd o ystoriau ac athrawiaethau yr hen dadau, a rhesymau y philosophyddion a gwŷr doethion a dysgedig eraill o'r cynfyd, ac a osodwyd allan trwy lafur Edward Lloyd, A.C., a gweinidog yr efengyl yn Llangower, yn Sir Feirion, er lleshad i'w braidd y mae yn fugail arnynt, ac yn oruchwyliwr i gyfranu iddynt .eu bwyd yn ei bryd, sef yw hyny, 'didwyll laeth y gair,' 1 Pedr ii. 2; ac ar ol hyny, er budd i'r Cymry oll," Amwythig, 1722.


Nodiadau

[golygu]