Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Richard, Rhuthyn

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. Richard, y Bala Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. William Penybont-ar-ogwy

JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhuthyn. Ganwyd ef yn y Bala, Hydref 26. 1813; ei rieni John a Jane Jones, oeddynt yn trigo yn y Bala ar y pryd, ond a symudasant i'r Wyddgrug wedi hyny. Pan yn bur ieuanc, ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Bala, yr hon oedd tan ofal y Parch. Michael Jones. Dywedir ei fod yn ddarllenwr mawr er yn ieuanc. Yn 1830, pan yn 17 oed, bu yn offeryn i sefydlu "Cymdeithas Araethyddol yr Ieuenctyd ar faterion Crefyddol," ymha un y daeth ei ragoriaethau ef a phump eraill i'r golwg, a chodwyd hwy i'r pwlpud. Ymhen ysbaid wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i goleg y Drefnewydd, lle y bu am ddwy flynedd, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Aberhosan, ger Machynlleth, lle yr urddwyd ef Ebrill 4, 1837. Dywedir ei fod yn bregethwr ieuanc hynod o boblogaidd, a bod cynydd mawr wedi bod ar yr achos yn y lle yn yr ysbaid byr y bu 66 yno. Yr oedd ei bregethau bob amser yn wir ddefnyddiol; yn goleuo y deall, yn deffro y gydwybod, yn enill y serch, ac yn gafaelyd yn y galon." Bu farw yn nhŷ ei fam yn y Wyddgrug, Hydref 26, 1841, yn 28 oed. Traddododd y Parch. W. Rees, (Gwilym Hiraethog), ei bregeth angladdol, oddiar,—"Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," &c. Ysgrifenodd y Parch. H. Pugh, Mostyn, gofiant iddo, a chyhoeddwyd ef ynghydag ugain o'i bregethau, Dolgellau, 1843. (Ei Gofiant; Geir. Byw. Aberdar; Geir. Byw. Lerpwl.)


Nodiadau

[golygu]