Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Richard, y Bala

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. Michael, Y Bala Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. Richard, Rhuthyn

JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tafarnytrip, yn mhlwyf Ffestiniog, yn Nghwmwd Ardudwy, Hydref 17, 1784. Yn haf, 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr i gadw un o'i ysgolion rhad symudol Cymreig, yn mhlwyf Maentwrog, lle yr addysgwyd R. Jones ar y cyntaf, a thrwy hyn a'r ychydig addysg Seisnig a gafodd yn Ysgol Genedlaethol Maentwrog, galluogwyd ef wedi tyfu i fynu i gymeryd gofal un o ysgolion Mr. Charles ei hun, yn Trerhiwaedog, ac yn y Parc, ger y Bala; ac yn Trawsfynydd. Yn 1815, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel Cwmprysor, Trawsfynydd. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1825. Yr oedd yn ddyn o synwyr, deall, a dawn naturiol, tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd ei arabedd yn ddiarebol. Cyhoeddwyd Hanes ei Fywyd, yr hwn a ysgrifenasid ganddo ef ei hun, gyda sylwadau ychwanegol arno, a sylwedd tair o'i bregethau, gan y Parch. Lewis Jones, Bala, yn 1841. Bu farw yn y Bala, Ebrill 17, 1840, yn 55 oed.—(Ei Gofiant.)


Nodiadau

[golygu]