Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Humphrey, D.D.
← Llwyd, Morgan | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Meredydd, William → |
LLOYD, HUMPHREY, D.D., ydoedd drydydd mab Richard Lloyd, D.D., ficer Ruabon, ac yn disgyn o deulu henafol Llwydiaid, Duluasai; a anwyd yn Bod y Fuddau, plwyf Trawsfynydd, yn 1610. Derbyniwyd ef i Goleg Oriel, Rhydychain, o ba le y symudwyd ef i Goleg yr Iesu, lle y daeth yn ysgolor; dychwelodd drachefn i Goleg Oriel, a gwnaed ef yn gymrawd, a pharhaodd yn ddysgawdwr enwog am lawer o flynyddau. Pan ymsefydlodd y brenin a'i lys yn Rhydychain, daeth yn gydnabyddus gyda'i gydwladwr, yr Archesgob Williams, yr hwn a'i dewisodd yn gaplan iddo ei hun, ac a roddes iddo brependiaeth Ampleford ymhrif Eglwys York, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Ar farwolaeth ei dad, yn 1653, efe a'i dilynodd fel ficer Ruabon, ond efe a gollodd ei swydd yn ystod rhwysg y Werin lywodraeth. Gwnaed ef yn ganon esgobaeth Llanelwy yn 1661, a chymerodd y radd o D.D., ac yn 1673, symudodd o ficeriaetha Ruabon, Sir Ddinbych, i ficeriaeth Gresford, yn yr un sir, yn lle ei frawd hynaf, y Parch. Samuel Lloyd. Cysegrwyd ef yn esgob Bangor Tachwedd 17eg, 1673, ac yn y swydd hono pwrcasodd archddeoniaethau Bangor a Môn, a gwag fywoliaeth Llanrhaiadr yn Nghinmerch, gan eu huno âg esgobaeth Bangor yn 1685; a dwy ran o dair o gyfranau Llanddinam, gan eu cyflwyno at yr achos eglwysig, a chynhaliaeth côr Bangor, a'r drydedd ran arall er budd ficeriaeth Llanddinam. Bu farw yn 1688, a chladdwyd ef yn ei brif Eglwys.—(Wood's Athen. Oxen; Geir. Byw. Ler pwl; Geir. Byw. Aberdar; Golud yr Oes, Cyf. II., tudal 310.).