Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Nanmor, Rhys

Oddi ar Wicidestun
Naney, Parch. Richard Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Osber neu Osburn Wyddel

NANMOR, RHYS, ydoedd fab i Dafydd Nanmor, ebe awdwr "Enwogion Cymru," ac yr oedd yn ei flodau o'r flwyddyn 1440 i 1480. Ymddengys mai gwr eglwysig oedd, ac yn preswylio yn Maenor Fynwy, Swydd Benfro. Y mae ychydig o'i waith yn nghadw mewn llawysgriſau; ac y mae un awdl o'i eiddo i Harri VII. yn gyhoeddedig yn yr Iolo MSS.—(Hanes Plwyf Beddgelert, gan W. Jones.)


Nodiadau[golygu]